
'Angen i Gyngor Gwynedd ystyried pob opsiwn cyn cau dwy ysgol yn Nyffryn Nantlle'
Mae cynghorwyr sir yn pwyso ar Gyngor Gwynedd i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau na fydd dwy ysgol leol sy'n "agos at galonnau" eu cymunedau, yn gorfod cau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi awdurdodi dau ymgynghoriad ar ddyfodol dwy ysgol yn y sir, sydd o fewn "ychydig filltiroedd" i'w gilydd.
Dim ond cyfanswm o 34 disgybl sydd wedi eu cofrestru fel disgyblion yn Ysgol Nebo, ac Ysgol Baladeulyn yn Nyffryn Nantlle, sydd gyda chapasiti ar gyfer dros 100 o ddisgyblion rhyngddynt.
Fe fydd ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol, sy'n edrych ar opsiynau yn cynnwys cau'r ddwy ysgol ar 31 Rhagfyr 2026, gyda'r bwriad o symud disgyblion o Ysgol Nebo i Ysgol Llanllyfni, ac i symud disgyblion o Ysgol Baladeulyn yn Nantlle i Ysgol Talysarn, gyda'r disgyblion i ddechrau yn eu hysgolion newydd ar o 1 Ionawr 2027.
Mae gan Ysgol Nebo 11 o ddisgyblion o ddosbarth derbyn i Flwyddyn 6, ond gyda chapasiti ar gyfer 51 o ddisgyblion, tra bod gan Ysgol Baladeulyn 23 disgybl o ddosbarth derbyn i Flwyddyn 6 ar gofrestr yr ysgol, ond sydd â chapasiti ar gyfer 55 o ddisgyblion.
Mae disgwyl i'r ddau ymgynghoriad gychwyn yn ystod tymor yr Hydref eleni..
Gostyngiad
Ers mis Medi 2015 mae gostyngiad o 54% wedi bod yn nifer y disgyblion rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 6 yn Ysgol Nebo, ac mae opsiynau eraill yn lle cau wedi cael eu crybwyll, gan gynnwys agor uned arbenigol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol neu sefydlu uned iaith ar gyfer dalgylch Dyffryn Nantlle.
23 o ddisgyblion sydd yn Ysgol Baladeulyn, ac mae opsiynau ar gyfer yr ysgol wedi eu hystyried, sy'n cynnwys newid statws yr ysgol i fod yn ysgol Gristnogol, neu i ychwanegu ardal arbenigol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
'Trist'
Mae'r cynghorydd sir annibynnol dros ward Llanllyfni yn dweud byddai cau'r ysgolion yn achos o "dristwch" i'r disgyblion, rhieni ac athrawon.
“Byddai cau'r ysgolion yn drist iawn i’r plant, y rhieni a’r athrawon sydd wedi gwneud gwaith rhagorol ers blynyddoedd lawer." meddai'r cynghorydd Peter Thomas.
“Bydd cau dwy ysgol fach arall yn Nyffryn Nantlle yn sioc i’r gymuned glos hon. Mae Ysgol Baladeulyn wedi ei lleoli ym mharc cenedlaethol Eryri, gyda golygfeydd gwych o Lyn Nantlle a Chrib Nantlle, does dim lle gwell i blant gael eu haddysg nag mewn amgylchedd hardd a glân.
“Byddai colli’r ysgolion hefyd yn golygu colli adnodd cymunedol y pentref, ar gyfer staff fe fydd diswyddiadau, ac fe fydd newidiadau mawr i fywydau plant a rhieni.
“Rwyf hefyd yn pryderu am yr effaith ar y gymuned, efallai na fydd teuluoedd â phlant yn awyddus i ddod i fyw yn y pentrefi oherwydd bod yr ysgol wedi cau a hefyd dwi'n bryderus am yr effaith ar yr iaith Gymraeg.”ychwanegodd Mr Thomas.

'Cyfrifoldeb'
Dywedodd Mr Dafydd Owen Davies, dyn busnes lleol a chynghorydd Plaid Cymru dros ward Clynnog Fawr, fod angen i'r cyngor fod yn un sy'n "agor drysau newydd."
“Dim ond ar ôl archwilio pob opsiwn ymarferol arall y dylid ystyried cau’r ysgolion,” meddai.
Mae Mr Davies yn annog cabinet y cyngor i edrych ar “fodelau peilot arloesol” sy’n cynnig y safle fel un i gefnogi plant ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol, gan ychwanegu "gadewch i ni beidio â bod yn gyngor sy’n cau drysau, ond yn un sy’n agor rhai newydd.”
Fe ddywedodd y Cynghorydd Dewi Jones o Blaid Cymru, sy'n aelod y cabinet dros addysg: “Mae gennym ddyletswydd hefyd i edrych yn ofalus ar y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu, mae gennym lai o blant ar draws y sir, mae costau’n cynyddu ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod addysg ledled Gwynedd yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn deg ac yn wydn am flynyddoedd lawer”.
Ychwanegodd nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto, ac addawodd “y bydd pob llais gan rieni, disgyblion a thrigolion lleol yn cael ei glywed a’i barchu”.