Teulu Aaron Ramsy wedi 'torri eu calonnau' wrth i chwilio barhau am eu ci ym Mecsico
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, wedi gwneud apêl o'r newydd i geisio dod o hyd i'w gi 'Halo', sydd wedi bod ar goll ym Mecsico ers bron i wythnos.
Fe ddefnyddiodd cyn-chwaraewr canol cae Arsenal a Chaerdydd ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i apelio am unrhyw wybodaeth i geisio dod o hyd i anifail anwes y teulu.
Mae'r chwaraewr 34 oed ar hyn o bryd yn chwarae i dîm y Pumas ym Mecsico, ac fe gafodd y neges ei chyhoeddi mewn Sbaeneg (iaith swyddogol y wlad).
Mae'r neges yn cyfieithu i "Rydym wedi torri ein calonnau. Mae bron i wythnos wedi mynd heibio heb atebion na arwyddion ganddi.
"Rydym yn parhau i weddïo am wyrth.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, helpwch ni i gael rhai atebion. Mae peidio â gwybod yn anodd iawn i'w dderbyn. Plîs."
Inline Tweet: https://twitter.com/aaronramsey/status/1978694431457857773?s=46&t=ORPiUkmNH3sLBy4-_vkwDA
Mae'r neges gafodd ei chyhoeddi am 0628 fore Iau, eisoes wedi ei gweld gan ddegau o filoedd ar wefan X (Twitter).
Fe ddefnyddiodd Ramsey ei gyfrif Instagram wythnos ddiwethaf i annog y cyhoedd ym Mexico i geisio dod o hyd i Halo, gyda'r addewid o wobr i unrhyw un fyddai'n dod o hyd i'r ci.
Fe ddywedodd yn wreiddiol fod Halo wedi mynd ar goll yn ardal San Miguel de Allende yn Guanajuato.
Nid oedd Ramsey, sydd â 86 cap dros ei wlad, yn rhan o garfan Cymru ar gyfer y gemau rhyngwladol y mis hwn oherwydd anaf.