Isetholiad Caerffili: Arolwg barn yn awgrymu ras agos rhwng Reform a Phlaid Cymru
Mae arolwg barn wedi awgrymu bod isetholiad Caerffili yn ras agos rhwng plaid Reform UK a Phlaid Cymru.
Fe gafodd yr arolwg yn yr etholaeth ei gynnal gan gwmni arolygon barn Survation ar ran cwmni materion cyhoeddus Camlas.
Mae’r arolwg yn awgrymu bod ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell, ar 42% o’r bleidlais ac ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, ar 38%.
Er mai'r Blaid Lafur sydd wedi ennill bob etholiad yng Nghaerffili ers dechrau datganoli yn 1999 mae’r arolwg yn awgrymu y byddwn nhw’n syrthio i’r trydydd safle gyda 12% o’r bleidlais.
Daw'r is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Hefin David, a oedd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 2016.
Dyma ganlyniadau’r arolwg:
· Llŷr Tomos Powell - Reform UK: 41.61% (+40)
· Lindsay Whittle - Plaid Cymru: 38.29% (+10)
· Richard Tunnicliffe - Y Blaid Lafur: 12.37% (-34)
· Gareth John Potter - Y Ceidwadwyr: 3.65% (-14)
· Gareth Hughes - Y Blaid Werdd: 2.72% (+3)
· Steve Aicheler - Y Democratiaid Rhyddfrydol: 1.35% (-1)
· (Eraill +/-0)
Dywedodd Rhodri ab Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus Camlas bod “llygaid pawb bellach ar Gaerffili”.
“Mae’r isetholiad yn cael ei gweld fel adlewyrchiad o'r hyn sydd i ddod pan fydd pleidleiswyr Cymru yn mynd i'r polau yn 2026,” meddai.
Dywedodd Damian Lyons Lowe, Prif Weithredwr cwmni arolygon barn Survation, ei fod yn awgrymu bod gwleidyddiaeth yng Nghymru ar fin gweld newid yn sylweddol.
“Yn 2021 fe wnaeth Llafur a’r Ceidwadwyr ennill 63% o’r bleidlais rhyngddyn nhw, ond mae'r arolwg barn hwn yn awgrymu bod hynny wedi plymio i 16% yn unig,” meddai.
“Byddai'r math yma o ganlyniad yn genedlaethol yn gweld diwedd ar dros ugain mlynedd o oruchafiaeth Llafur ar Lywodraeth Cymru, gyda Reform neu Blaid Cymru yn debygol o fod mewn grym yn 2026.”
Mae’r arolwg yn seiliedig ar sampl o 501 o ymatebwyr 16+ oed yn etholaeth Caerffili a gafodd eu casglu rhwng 7 a 14 Hydref 2025.
Daw hyn wrth i’r is-etholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda’r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref.
Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).