Caerdydd yn gobeithio cynnal rhai o gemau Cwpan Byd y menywod yn 2035
Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio gweld y brifddinas yn cynnal rhai o gemau Cwpan Byd y menywod yn 2035.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi eu bwriad i wahodd rhai o'r gemau yn y gystadleuaeth, pan fydd rowndiau terfynol y gwpan yn ymweld â'r Deyrnas Unedig.
Mae gofyn i aelodau cabinet y cyngor, gytuno cefnogi'r cytundeb i'r ddinas gynnal rhai o'r gemau mewn cyfarfod ddydd Iau.
Pe bai'r gwahoddiad yn cael ei gymeradwyo fe fydd cais ffurfiol yn cael ei yrru at FIFA ym mis Tachwedd.
Mae Llywydd FIFA, Gianni Infantino wedi cadarnhau mai cais gan y DU oedd yr unig gais ddaeth i law y corff llywodraethu.
Does dim disgwyl i FIFA benderfynu os fydd Caerdydd yn cynnal rhai o'r gemau yn y gystadleuaeth tan fis Ebrill 2026 ar y cynharaf.
Dywedodd rheolwr gweithredol Invest in Cardiff, Jon Day, wrth gynghorwyr mewn cyfarfod pwyllgor craffu economi a diwylliant ddydd Mercher fod poblogrwydd Cwpan Byd y Menywod yn “rhywbeth sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf”.
Mae Lloegr wedi cynnal cystadleuaeth Menywod yr EURO's ar ddau achlysur, ond dyw cystadleuaeth o'r fath erioed wedi ei chynnal ar draws y bedair gwlad sy'n rhan o'r DU.
'Cefnogaeth'
Cafodd cais ar y cyd rhwng cymdeithasau pêl-droed y DU ac Iwerddon ei gyflwyno i FIFA ym mis Mawrth eleni.
Drwy fod yn ddinas fydd yn gartref i rai o'r gemau yn y gystadleuaeth, gallai economi Caerdydd elwa'n sylweddol yn sgil y dygwyddiadau rhyngwladol.
Fe fyddai cost cynnal y gystadleuaeth yn cael ei rhannu rhwng Llywodraeth y DU a’r dinasoedd fydd yn croesawu'r bencampwriaeth.
Mae'r union fanylion ynghylch faint y gallai cynnal y gystadleuaeth gostio i Gyngor Caerdydd wedi ei nodi mewn adroddiad cyfrinachol.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gefnogi dinasoedd fydd yn cynnal y gemau ac mae Cyngor Caerdydd wedi gofyn am gyfraniad tuag at sicrhau fod y ddinas yn cyrraedd gofynion cynnal y gemau.
Nid oes manylion ynghylch pa stadiwm fyddai’n cael ei ddefnyddio pe bai Caerdydd yn llwyddiannus, wedi eu rhyddhau eto, yn ogystal â faint o gemau mae'r brifddinas yn gobeithio eu cynnal.