Chwe ymgeisydd lleol yn camu ar lwyfan cenedlaethol: 'Profiad ddigon nerfus i unhryw wleidydd profiadol'

dadl is-etholiad
Wrth i chwech o'r pleidiau gwleidyddol sy'n sefyll yn isetholiad Caerffili i ennill sedd yn y Senedd fynd benben â'i gilydd mewn dadl deledu fyrlymus ar BBC Cymru nos Fercher, ein Gohebydd Gwleidyddol, Jacob Morris oedd yn bresennol i ddadansoddi'r hyn oedd gan Richard Tunnicliffe o Lafur, Gareth Potter o'r Ceidwadwyr, Lindsay Whittle o Blaid Cymru, Llŷr Powell o'r Blaid Reform, Steve Aicheler o'r Democrat Rhyddfrydol a Gareth Hughes o'r Blaid Werdd i'w ddweud o flaen 80 o bobl yn adeilad Sefydliad y Gweithwyr ym Medwas yn yr etholaeth.
 
“Ni ‘di defnyddio cadeiriau fel podiums, ymarfer brawddegau stoc ar gof gyda swyddog ymgyrchu yn dynwared aelod o’r gynulleidfa,” meddai un swyddog ymgyrch wrtha i yr wythnos hon. 
 
Y fath o olygfa y bydd chi’n disgwyl gweld mewn swyddfa arweinydd plaid cyn dadl deledu fawr. Profiad ddigon nerfus i unhryw wleidydd profiadol. 
 
Ond nid arweinwyr profiadol yw’r rhain. Ymgeiswyr isetholiad Cearffili ydyn nhw, a hynny o flaen o 80 o etholwyr Caerffili a chynulleidfa o filoedd BBC One Wales. 
 
O’r cychwyn un – dadl danllyd, bywiog; anodd i'w chadeirio fydden i’n meddwl.
 
Yn y bôn, dyma oedd chwe ymgeisydd yn mynd ben a’i gilydd, chwech o ddynion oedd yn gwaeddu a thorri ei draws ei gilydd.
Image
Jacob Morris
 
Materion lleol oedd yn cael cryn sylw - llyfrgelloedd a hcanolfannau hamdden yn cau, ac yn ôl y disgwyl efallai, y Gwasaneth Iechyd.
 
Gofynnwyd i’r ymgeiswyr gan aelod o’r gynulleidfa, Ryan Bevan, beth fyddent yn ei wneud i gefnogi ac i wella gwasanaethau cyhoeddus Caerffili. 
 
Roedd eu hatebion yn amrywio o alwadau am fuddsoddi “yn y mannau cywir” ac am drethu’r cyfoethog i ariannu gwasanaethau.
 
Yn benodol ar lyfrgelloedd, fe gyhuddodd yr ymgeisydd Democrat Rhyddfrydol Steve Aicheler, yr ymgeisdydd Llafur, Richard Tunnicliffe o ragrith. Llafur sy'n gyfrifol am y cyngor yr ardal. Dyma oedd ymddangosiad byw cynatf Mr Aicheler ar y teledu meddai wrth Newyddion S4C wedi’r ddadl. 
 
Trafodwyd hefyd y cynlluniau i  ehangu’r Senedd rhybweth roedd y Cediwadwr Gareth Potter yn mynnu mae ei blaid yn unig sy’n gwrthwynebu’r cynllun hwn.
 
Dywedodd y Ceidwadwr Gareth Potter mai ei blaid ef oedd yr unig un fyddai'n gwrthdroi ehangu'r Senedd y flwyddyn nesaf o 60 i 96 aelod.
 
Image
nick servini
 
Ond roedd pynciau sydd heb eu datganoli hefyd yn cael sylw - mewnfudo yn un pwnc amlwg.
 
Llŷr Powell wynebodd y fwyaf o feirniadaeth am safbwynt ei blaid ar hyn. Dywedodd fod angen ail-reoli’r sefyllfa, gan fynnu bod y lefelau mewnfudo i’r DU yn rhy uchel gan gael ei herio gan aelod ‘r gynulleidfa. Sôn wnaeth un fam nad oedd ei theulu bellcah yn teimlo’n ddiogel yng Nghaerffili mwyach ers cychwyn yr ymgyrch hon.
 
Roedd eraill yn fwy cadarnhaol eu naws. Dywedodd Richard Tunnicliffe fod mudo’n cael ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol, ond ei fod yn hanfodol i wasanaethau fel y GIG a’r economi leol. Lindsay Whittle soniodd am ei falchder o gefnogi Cymru fel cenedl noddfa, tra cyhuddodd Gareth Hughes y Blaid Reform o droi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel yn elynion.
 
Cysgod dros ymgyrch Refrom yw achos Nathan Gill, cyn-arweinydd y blaid yma yma yng Nghymru - sydd wedi cyfaddef i wyth cyhuddiad o lwgrwobwyo am wneud datganaidau o blaid Rwsia tra’n Aelod o Senedd Ewrop. Dweud y dylai Gill wynebu grym lawm y gyfraith wnaeth Mr Powell a oedd ar un adeg yn gweithio i Gill, ac fe ddywedodd mai yn y wasg a glywodd gyntaf un am gamweithredu Gill.
 
Darlun gonest o gymuned yn siarad drosti’i hun gafwyd yn Neuadd Bedwas nos Fercher. 
 
Fe ddaeth y chwech wedi’u paratoi ac ymarfer am ddadl – a dadl danllyd oedd hi. Nid sglein sy’n dod fel arfer mewn dadl arweinwyr, ond mewnwelediad i’r pynciau sy’n poeni cymunedau, fel sawl un arall yng Nghymru. 
 
Ond pobl Caerffili yn unig fydd yn penderfynu pwy sy’n taro tant, a phwy sy’n haeddu eu pleidlais ymhen wythnos yn unig.
 
Dyma restr lawn o'r ymgeiswyr:

• Democratiaid Rhyddfrydol: Steve Aicheler

• Gwlad: Anthony Cook

• Y Blaid Werdd: Gareth Hughes

• Y Blaid Geidwadol: Gareth Potter

• Reform: Llyr Powell

• UKIP: Roger Quilliam

• Y Blaid Lafur: Richard Tunnicliffe

• Plaid Cymru: Lindsay Whittle

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.