Lansio ysgoloriaeth newydd er cof am Huw Gethin Jones

Huw Gethin Jones

Mae ysgoloriaeth newydd yn cael ei lansio eleni er cof am aelod o gwmni teledu Rondo a fu farw o gymhlethdodau Covid-19.

Mae ‘Ysgoloriaeth Huw Geth’ wedi ei sefydlu er cof am Huw Gethin Jones, ac fe'i sefydlwyd ar y cyd gan ei wraig, Teleri a Rondo Media. 

Cyn ei farwolaeth yn 2021 yn sgil cymhlethdodau gyda Covid, roedd Huw yn gweithio fel golygydd i'r cwmni teledu.

Mae cyfle i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Teledu a Ffilm, Cyfryngau, Cerddoriaeth, a Chelfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai wneud cais am yr ysgoloriaeth sy'n werth £1,000. 

Bwriad yr ysgoloriaeth yw cefnogi datblygiad gyrfa'r dysgwyr, a bydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd mentora pwrpasol gan weithwyr profiadol yn Rondo Media.

Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chynnal am ddeng mlynedd.

Drwy gydol y flwyddyn academaidd bydd staff Rondo Media yn cyflwyno darlithoedd, dosbarthiadau meistr, a gweithdai i ddysgwyr Coleg Menai.

Image
Rondo

Dywedodd Bedwyr Rees, Cyfarwyddwr Rondo Media: “Roedd Huw Gethin Jones yn aelod amryddawn o staff Rondo ac rydyn ni'n cofio'n annwyl iawn amdano. 

"Fel gŵr a oedd yn meddwl y byd o'i deulu, mae'n gwbl addas bod Ysgoloriaeth Huw Geth yn mynd tuag at gefnogi pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu gyrfa yn y celfyddydau creadigol.

“Mae'r bartneriaeth hon â Grŵp Llandrillo Menai yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygiad diwydiant creadigol cynaliadwy a llewyrchus yng Nghymru. Mae'r diwydiant ffilm a theledu yn ddibynnol ar greadigrwydd, gweledigaeth ac egni."

Dywedodd Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai: “Rydyn ni'n falch iawn o gael ymuno â Rondo Media i gynnig yr ysgoloriaeth hon. Yn ogystal â'r gwaith cydweithredol ehangach a amlinellir yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, bydd yn rhoi cyfleoedd anhygoel i'n dysgwyr ddatblygu'r sgiliau a'r profiadau a fydd yn eu helpu i wneud argraff yn y sector Ffilm a Theledu.”

Roedd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, yn ddarlithydd ar Huw Gethin ym Mhrifysgol Bangor. Esboniodd fod Huw Gethin yn fyfyriwr "brwdfrydig, ymroddgar ac aeddfed a oedd wedi rhoi ei fryd ar weithio yn y cyfryngau".

"Trefnodd nifer o gyfnodau profiad gwaith iddo'i hun gan feistroli'r grefft o olygu a llwyddo i gael swydd," meddai.

“Treuliodd ei yrfa yn golygu rhaglenni ar gyfer S4C ac fe gollwyd gŵr talentog a hoffus yn llawer rhy gynnar. Mae’n wych fod cwmni Rondo am gefnogi dysgwyr y dyfodol gyda'u hastudiaethau er cof am Huw – fedra i ddim meddwl am neb gwell i’w hysbrydoli."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.