Menyw o Sir Gâr mewn ‘ofn’ nad yw meddygon yn cymryd iechyd meddwl ‘o ddifrif’

Ffion Connick

Mae menyw ifanc o Sir Gâr wedi galw ar feddygon teulu i “gymryd iechyd meddwl fwy o ddifri” gan ddweud ei bod yn “bryderus” am ddiffyg cydnabyddiaeth ganddynt.  

Yn wreiddiol o bentref Caerbryn ger Rhydaman, fe gafodd Ffion Connick, 23 oed, ddiagnosis o orbryder bron i 10 mlynedd yn ôl. 

Roedd hi’n derbyn gofal gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl ifanc (CAMHS) yng Nghaerfyrddin ar y pryd, cyn iddi gael ei throsglwyddo i ofal ei meddyg teulu ar ôl troi’n 18 oed. 

Ond mae bellach wedi penderfynu talu am gymorth preifat gan gwnselydd. 

Mae’n dweud ei bod yn bryderus bod ‘na ddiffyg cydnabyddiaeth gan feddygon am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu gyda’u hiechyd meddwl. 

Daw hynny wrth i elusen Mind Cymru gyhoeddi adroddiad ddydd Iau sy'n nodi mai dim ond ychydig dros hanner o'r bobl (52%) a holwyd, oedd yn teimlo’n obeithiol ar ôl derbyn eu hapwyntiadau iechyd meddwl diwethaf. 

Dywedodd 36% o bobl a holwyd nad oeddent yn teimlo fel bod eu meddyg teulu wedi llwyddo i gwrdd â’u anghenion iechyd meddwl chwaith.  

Ond roedd nifer fawr o bobl – 85% – yn dweud bod eu meddyg teulu wedi gwrando ar yr hyn oedd ganddynt i ddweud hefyd, medd yr adroddiad.

Image
Ffion gyda'i chwaer, Mared
Ffion gyda'i chwaer, Mared

'Codi ofn'

Yn ôl Ffion Connick, mae’n teimlo iddi fod y ffigyrau’n “erchyll” ac eu bod yn “codi ofn” arni.

“Sai’n gweud bod e’n wir am bob meddyg ond falle bod nhw angen cymryd iechyd meddwl fwy o ddifri,” meddai. 

“Pan mae rhywun yn ffonio lan… jyst i gael bach o empathi a chydnabod bod iechyd meddwl yn fater brys. 

“Jyst achos bod e’n gudd yn rhai pobl, dyw e ddim yn meddwl bod e’n llai pwysig.” 

Mae’n dweud ei bod yn cydnabod bod y system ofal iechyd dan straen, gan ddweud na ddylai’r baich i gyd gwympo ar ysgwyddau meddygon. 

Yn ôl Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru, “nid yw’r system gofal iechyd yn gweithio” i bobl sydd ag anghenion iechyd meddwl yng Nghymru heddiw, er gwaethaf ymdrechion meddygon teulu.

Image
Ffion ac ei theulu
Ffion gyda'i theulu

Galw ar Lywodraeth nesaf Cymru

Fel rhan o Adroddiad Iechyd Meddwl Mawr Mind, cafodd arolwg ei gwblhau gan 1,570 o oedolion yng Nghymru. 

Roedd 50% ohonynt wedi dweud eu bod wedi cael eu trin yn annheg yn ystod y 12 mis diwethaf wrth geisio cael gafael ar gymorth iechyd meddwl. 

Mae Mind Cymru bellach yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i “ailwampio’r system ofal.” 

“Mae pobl yng Nghymru yn gorfod aros yn rhy hir o lawer am wasanaethau, ac mewn rhai achosion maent yn methu â chael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl addas,” medd Sue O’Leary. 

“Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru fynd ati i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau, a blaenoriaethu rhoi atgyfeiriadau ar yr un diwrnod i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl.”

Sut byddai'r pleidiau gwleidyddol yn 'trawsnewid' y system ofal?

Wrth i etholiadau Senedd Cymru agosáu, mae’r elusen yn galw am “drawsnewid sylfaenol.” 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda’r pleidiau gwleidyddol ynglŷn â galwadau’r elusen, gan geisio derbyn eu hymatebion i'r sefyllfa.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod “o ddifrif” am roi arweinyddiaeth newydd i’r gwasanaeth iechyd. “Am flynyddoedd mae pobl Cymru wedi gorfod disgwyl rhy hir i gael y gwasanaethau maent yn haeddu,” meddai’r llefarydd.

Fe fyddai’r blaid yn sicrhau trawsnewid drwy “ganolbwyntio ar atal cyflyrau er mwyn lleihau'r pwysau ar ofal eilaidd, wrth ehangu gofal yn y gymuned,” ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK ei bod yn “hanfodol” i beidio â gwastraffu “adnoddau gwerthfawr,” gan ddweud y dylai gwasanaethau iechyd meddwl buddio o adnoddau o’r fath.

“Er bod staff proffesiynol a gwirfoddol yn gweithio’n hynod galed, yn anffodus mae’r amseroedd aros yn rhy hir, nad yw anghenion pobl yn cael eu diwallu, ac mae’r rhai ar y rheng flaen yn cael eu hanwybyddu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.