
Buddsoddiad o £10 miliwn i Venue Cymru wedi tro pedol gan y Llywodraeth
Fe fydd theatr Venue Cymru yn derbyn buddsoddiad o £10 miliwn ar ôl tro pedol gan Lywodraeth y DU.
Mae’r ganolfan gelfyddydau yn Llandudno ymhlith naw prosiect ar draws y DU fydd yn derbyn arian o gronfa gwerth £64 miliwn. Y nod yw “hybu twf a sbarduno adferiad rhanbarthol”.
Yn eu plith hefyd mae Pont Gludo Casnewydd, fydd yn derbyn £5 miliwn tuag at waith atgyweirio.
Daw’r cyhoeddiad ddydd Llun yn dilyn pryderon am ddyfodol ariannu Venue Cymru. Dyma'r ganolfan gelfyddydau fwyaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd.
Cafodd y theatr ei chlustnodi i gael buddsoddiad £10 miliwn o dan y Llywodraeth Geidwadol y llynedd, fel rhan o'r Gronfa Codi'r Gwastad. Y bwriad oedd cwblhau gwaith i adnewyddu’r adeilad.
Ond ar ôl i Lafur ddod i rym fis Gorffennaf, fe gyhoeddwyd yn natganiad Cyllideb yr Hydref y byddai’r buddsoddiadau yn cael eu gohirio dros dro. Roedd y llywodraeth eisiau ‘adolygu’ pa brosiectau ddylai dderbyn yr arian.
Y rheswm am hynny, medden nhw, oedd oherwydd eu bod wedi “etifeddu gwerth £22 biliwn o ymrwymiadau gwariant nad oedd wedi’u costio”.
'Blêr a trist'
Fis diwethaf, fe ddywedodd Cyngor Conwy bod yr arian wedi’i “tynnu yn ôl”, gyda chynghorwyr lleol yn mynegi pryderon am ddyfodol y theatr. Roedden nhw'n dweud bod y lle yn edrych yn "flêr” ac yn “drist".
Ond fe fydd y theatr nawr yn derbyn yr arian er mwyn cyflawni ‘newid sylweddol’ yn nefnydd yr adeilad.
Bydd hyn yn cynnwys symud llyfrgell y dref a chanolfan gwybodaeth ymwelwyr yno.

Fe fydd y buddsoddiad ym Mhont Gludo Casnewydd yn ariannu “gwaith atgyweirio hollbwysig” ar y strwythur, sy’n croesi’r Afon Wysg. Mae'n “chwarae rôl hollbwysig yn economi twristiaeth De Cymru fel atyniad i ymwelwyr".
Mae’r Llywodraeth y gobeithio y bydd y buddsoddiadau yn “arwain at greu swyddi ac mewn rhai achosion, adeiladu tai newydd”.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Venue Cymru a Phont Gludo Casnewydd yn atyniadau eiconig yn eu cymunedau lleol, ac rwy’n falch iawn y bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i hybu sectorau twristiaeth a diwylliant Cymru, sydd eisoes yn arwain y byd."