Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ‘ganolog i’r iaith’ wrth ddathlu’r 150

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ‘ganolog i’r iaith’ wrth ddathlu’r 150

Wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru baratoi i ddathlu 150 mlwyddiant ddydd Llun, mae'r colofnydd a'r awdur chwaraeon Phil Stead o Wynedd yn dweud bod ei gyfraniad wedi bod yn "ganolog i’r iaith Gymraeg".

Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu ar 2 Chwefror 1876 yng Ngwesty'r Wynnstay Arms yn Wrecsam.

Bryd hynny roedd y gymdeithas fel "clwb preifat Prydeinig", yn ôl Mr Stead a ysgrifennodd y llyfr Red Dragons sy'n adrodd hanes pêl-droed Cymru.

"Pan nath o gychwyn yn 1876, a tan y rhyfel rili, roedd o’n sefydliad Prydeinig iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

"Oeddan nhw’n casglu pres i gronfa’r Brenin ond nid i’r Urdd, yn codi cwpan i’r Queen ar ôl bob gêm.

"Wedyn yn y 1970au nath pethau newid dipyn bach fel oedd cenedlaetholdeb Cymru yn codi."

Ers hynny, mae'n dweud bod y gymdeithas wedi "gwneud llawer iawn i hybu'r iaith" dros y blynyddoedd.

Mae'n cyfeirio'n benodol at gyfraniad un o benaethiaid cyfathrebu'r gymdeithas, Ian Gwyn Hughes.

Image
Gareth Bale enjoys a joke with team mates during a Wales football training session ahead of the World Cup Qualifier play off semi final match against Austria
Gareth Bale gyda'i gyd-chwaraewyr yn ystod sesiwn hyfforddi cyn gêm gynderfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd (Llun: Huw Evans)

Fe wnaeth Mr Hughes ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2011 yn dilyn gyrfa fel newyddiadurwr chwaraeon a sylwebydd pêl-droed gyda'r BBC.

"Mae’r gymdeithas wedi bod yn ganolog i hybu’r iaith ers i Ian Gwyn gael rôl mor flaengar yn fan 'na," meddai.

"Fedrwn ni ddim rili gorbwysleisio sut mor bwysig mae Ian wedi bod i’r cymdeithas ac i’r iaith ei hun. Maen nhw wedi cyflwyno dwyieithrwydd i mewn i’r byd chwaraeon, 'dan ni’n gweld Cymru ar cefn y crysau, 'da ni wedi weld 'diolch' yn yr Euros yn 2016. 

"Pan ti’n gweld pobl fel Gareth Bale yn derbyn yr iaith, mae’n anfon signal mawr allan i bobl Caerdydd sydd ddim wedi bod cefnogol o’r iaith yn y gorffennol. 

"Rili mae'r tîm pêl-droed a’r gymdeithas yn arwain y ffordd yna."

Cefnogaeth ar lawr gwlad

Mae cefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru i'r gamp ar lawr gwlad hefyd wedi gwella, yn ôl Mr Stead.

"Mae’n swnio’n rhyfedd ond doedd y gymdeithas ddim mor gefnogol o bêl-droed domestig Cymru," meddai. 

"Pan nath Alun Evans [y cyn-ysgrifennydd cyffredinol] helpu i greu Uwch Gynghrair Cymru yn 1992, doedd 'na ddim lot o gefnogaeth gan weddill y gymdeithas.

"Ond dwi wedi gweld hwnna’n gwella ac erbyn hyn maen nhw’n deall lot mwy am grassroots football a maen nhw’n neud lot i helpu’r gêm. 

"'Da ni’n gweld strwythur yn newid, mae 'na real ymdrech i godi Uwch Gynghrair Cymru a’r holl system ar lawr gwlad rili a mae lot o clybiau wedi cael cefnogaeth nhw yn ddiweddar, felly mae pethau yn symud yn y ffordd iawn."

Un clwb sydd wedi elwa o'r gefnogaeth ydi Clwb Pêl-droed y Felinheli yng Ngwynedd, lle mae Mr Stead yn is-lywydd.

"Mae clwb ni wedi cael cymorth da gan y gymdeithas, 'da ni wedi cael cymorth ariannol i adeiladu eisteddle ac adnoddau newydd," meddai.

Image
Eisteddle Euron
Cafodd eisteddle CPD Y Felinheli ei enwi er cof am Euron Davies, cyn-reolwr y clwb, a fu farw yn sydyn (Llun: CPD Y Felinheli)

"'Da ni’n elwa o’r strwythur newydd achos rhaid cael adnoddau sy’n addas i haen tri lle 'da chi’n chwarae," meddai.

"A 'da ni’n ddigon ffodus i cael adnodau yna a cae 'da ni wedi gallu datblygu sydd wedi helpu ni i symud ymlaen."

Wrth edrych i'r dyfodol, mae Mr Stead yn gobeithio y bydd pêl-droed Cymru yn parhau i ffynnu.

"Dwi’n edrych ymlaen i weld sut mae strwythur newydd system Cymru yn gweithio allan," meddai.

"Dwi’n meddwl mae 'na heriau; pan ti efo dy clybiau mwyaf, dy clybiau gorau yn chwarae mewn gwlad arall, mae’n mynd i fod yn heriol. 

"Ond mae’n bwysig i ni bo' ni’n cadw annibyniaeth ni, mae 'na beryg gwleidyddol 'da ni’n goro wynebu fel gwlad a dwi’n meddwl mae hwnna’n gallu cael effaith ar ein chwaraeon ni hefyd. 

"Maen nhw'n dweud bod Cymru yn wlad pêl-droed annibynnol - dwi jyst yn gobeithio bod o’n aros fel 'na."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.