Angharad Mair wedi cwestiynu ‘a fyddai Sir Benfro yr un peth’ ar ôl trychineb y Sea Empress
Roedd y cyflwynydd Angharad Mair wedi cwestiynu “a fyddai Sir Benfro yr un peth fyth eto” yn dilyn trychineb y Sea Empress.
Daw ei sylwadau mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C, 30 mlynedd ers un o ollyngiadau olew mwyaf y byd ar y pryd.
Bydd Dŵr Du: Trychineb y Sea Empress yn cael ei darlledu ar 3 Chwefror am 21.00 ar S4C ac ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Roedd y Sea Empress yn llong olew a aeth i drafferthion ger porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro, yn 1996.
Ar y pryd, roedd Aberdaugleddau yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd a’r ail fwyaf o’i fath yn Ewrop.
Wedi i’r Sea Empress daro yn erbyn creigiau dan y dŵr fe ollyngodd 72,000 o dunelli o olew i’r môr, cyfwerth â 32 pwll nofio Olympaidd.
Roedd Angharad Mair yn cyflwyno’r newyddion ar S4C ar adeg y trychineb.
“Ar un llaw, o’dd rhaid i fi ‘neud yn swydd, rhoi’r ffeithiau ar y newyddion yn ddi-emosiwn ac yn broffesiynol,” meddai.
“Ond, ar y llaw arall, o’n i a sawl un arall o Gymru’n meddwl hefyd a fyddai Sir Benfro yr un peth fyth eto? A fyddai teuluoedd fel fy un i byth yn cael mwynhau diwrnod braf o haf yno eto?”
‘Ymateb anhygoel'
Roedd y lluniau o’r effaith y cafodd y gollyngiad olew ar fywyd gwyllt yr ardal wedi arwain at ddiddordeb byd-eang, yn ôl Angharad.
“Erbyn hyn, o’dd beth o’dd yn ddamwain wedi troi mewn i fod yn drychineb ac unwaith daeth y lluniau ‘na o’r olew yn lladd miloedd o adar, naeth e gyffwrdd â chalonnau yn fyd-eang,” meddai.
“O’dd ymateb y cyhoedd yn anhygoel, gyda miloedd o wirfoddolwyr yn heidio i Sir Benfro a fi ddim yn credu welwyd erioed y fath ymateb i drychineb amgylcheddol yn hanes Prydain.”
Mae trychineb y Sea Empress yn un stori o’i gyrfa newyddiadurol na fydd hi byth yn anghofio.
“Wrth edrych ‘nôl ar fy nghyfnod yn darllen y newyddion, fi’n cofio y straeon mawr yn iawn,” ychwanegodd.
“O’n i yno diwrnod trychineb Hillsborough, diwrnod rhyddhau Nelson Mandela a diwrnod trychineb y Sea Empress, nai byth eu hanghofio nhw.”
