Pryder y bydd theatr 'flêr a thrist' yn colli buddsoddiad o £10 miliwn
Mae pryder y bydd theatr a chanolfan adloniant fwyaf y gogledd yn colli buddsoddiad o £10 miliwn i'w hatgyweirio.
Mae cynghorywr lleol yn poeni bod Venue Cymru yn Llandudno bellach yn edrych yn "“flêr” ac yn “drist".
Roedd ‘na ddisgwyl y byddai'r ganolfan yn derbyn £10m o gyllid fel rhan o gronfa benodol gan Lywodraeth y DU.
Roedd y llywodraeth Geidwadol flaenorol wedi cyhoeddi y byddai £100m ar gael er mwyn ariannu gwaith cynnal a chadw ar gyfer prosiectau ar hyd a lled y DU.
Ond yn dilyn buddugoliaeth y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf y llynedd, mae’n debygol na fydd cyllid o’r fath bellach ar gael.
Roedd disgwyl y byddai rhan o'r arian yn cael ei ddefnyddio i symud llyfrgell Llandudno i’r un adeilad a Venue Cymru – ond nid pawb oedd yn fodlon gyda’r cynllun.
Roedd nifer o drigolion lleol wedi mynegi eu gwrthwynebiad ar y pryd.
'Dim yn hyderus'
Wrth siarad mewn cyfarfod o bwyllgor cyllid ac adnoddau Cyngor Conwy, dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey nad oedd yn hyderus y bydd Venue Cymru bellach yn derbyn £10m o gyllid.
Ond ychwanegodd nad yw’r Cyngor wedi cael cadarnhad naill ffordd hyd yma.
Dywedodd eu bod yn cydnabod pa mor bwysig ydy Venue Cymru i bobl leol yn Llandudno, a thu hwnt.
“Rydym wedi cael cyfarfodydd eithaf da gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwahanol gronfeydd cyllid all helpu datblygu Venue Cymru,” ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: “Fel rhan o Ddatganiad Cyllideb yr Hydref (30 Hydref 2024), fe gawsom wybod fod Llywodraeth y DU yn bwriadu tynnu’r cyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Gwanwyn 2024 yn ôl.
“Mae hyn yn cynnwys y £10m ar gyfer Venue Cymru.”
Dywedodd bod Llywodraeth y DU wedi bod yn cysylltu gyda’r cyrff oedd yn disgwyl derbyn arian, er mwyn penderfynu a ddylai unrhyw eithriadau cael eu gwneud.
Mae’r Cyngor bellach yn disgwyl cael gwybod os ydyn nhw am dderbyn unrhyw gyllid “maes o law,” ychwanegodd.