'Colli hen ffrind annwyl': Diwedd cyfnod i Gapel Cymraeg Bethel yn Birmingham
Fe fydd hi'n ddiwedd cyfnod i Gapel Cymraeg Bethel yn Birmingham ddydd Sul, wrth i'r addoldy gau ei ddrysau am y tro olaf.
Ar ôl 58 o flynyddoedd, bydd capel Bethel Birmingham yn cynnal y gwasanaeth a'r defosiwn olaf ddydd Sul.
Fe gafodd y Capel ei agor ym 1968 wedi i ddau gapel Cymraeg arall gau yn y ddinas, sef capel Hockley Hill a chapel Suffolk Street.
Y Parchedig Robert Parry, cyn-weinidog y Capel, fydd yn arwain y gwasanaeth.
"Ma'n debyg iawn i gynnal angladd mewn gwirionedd, dwi'n teimlo fy mod i wedi colli hen ffrind annwyl iawn. Does gen i ddim byd ond atgofion hapus dros ben o'r lle. Ma' 'na rywbeth ynglyn â Chymru alltud sydd ddim i'w gael yng Nghymru, ma' 'na ryw agosatrwydd anghyffredin," meddai wrth Newyddion S4C.
Ychwanegodd Ysgrifennyddes Capel Bethel Ellen Whitehouse wrth Newyddion S4C: "Yn y dyddiau cynnar, oedd rhaid i chi fynd yn gynnar i gael set, mi roedd y Capel yn orlawn ac oedd o'n wych.
"Mae o mor bwysig i mi yn bersonol i gael addoli yn fy iaith fy hun a dwi'n licio bo' fi wedi gallu mynd i Gapel Cymraeg. Mae o'n bwysig iawn i mi, a pan fyddan ni'n cau ddydd Sul, dwi'n gobeithio mynd i Gapel Cymraeg Coventry."
'Isio addoli yn eu mamiaith'
Ychwanegodd y Parchedig Robert Parry fod cael addoli drwy'r Gymraeg wedi bod yn hollbwysig i aelodau o'r Capel yn Birmingham yn ogystal â dinasoedd eraill ar draws Lloegr.
"Mi alle bobl yn hawdd fod yn addoli mewn capeli sydd yn llawer agosach at eu cartref nhw ond ma' nhw isio cael addoli yn eu mamiaith," meddai.
"Ma'r pellteroedd ma' Cymry yn Lloegr yn deithio i gapel yn anhygoel wedyn ma'r Gymraeg wedi bod yn bwysig dros ben ac wedi tynnu pobl at ei gilydd.
"Mi fedrwch chi fynegi petha yn eich mamiaith 'dach chi methu neud yn Saesneg."
Fe esboniodd Mrs Whitehouse fod yna sawl rheswm gwahanol dros gau'r Capel.
"Mi 'nath 'na lot o bobl symud yn ôl i Gymru a mae llawer wedi marw wrth gwrs, a ma' genno ni 17 o aelodau ar y llyfrau, ond dim ond saith sydd yn gallu dod yn rheolaidd," meddai.
"Allan o'r saith yna, yn ddiweddar, dydy hi ddim yn hawdd i bedwar ohonyn nhw ddod dim mwy wedyn ma' 'na weitihia tri yn y gynulleidfa. Ma' hi'n anodd rhedeg capel efo dim ond tri."
'Clywed Cymraeg da'
Mae Mrs Whitehouse yn ddiolchgar iawn i'r holl weinidogion sydd wedi ymweld â'r Capel dros y blynyddoedd.
"Ma'r gweinidogion wedi bod yn wych, dod yr holl ffordd o Gymru," meddai.
"Dwi'n meddwl mai dyna pam ma'r Gymraeg wedi dal i fyw yn y Capel am bod y gweinidogion, 'dan ni wedi clywed Cymraeg da, clywed Cymraeg gorau Cymru gan gewri Cymru, gweinidogion disglair wedi dod yma."
Fe fydd wyth o bregethwyr a gweinidogion, yn cynnwys y Parchedigion Siôn Aled, Glyn Wise, Carwyn Siddall, Gwendydd Askew, Dennis Davies, Beryl Vaughan ac Eric Greene.
"Fydd o'n wasanaeth arbennig, a fydd yn wych i'w gweld nhw gyd efo'i gilydd. Ma' nhw 'di bod mor dda yn dod atom ni achos dydi o ddim yn awr o bregethu, 'dach chi'n rhoi eich penwythnos i ddod i Birmingham i bregethu," meddai Mrs Whitehouse.
'Diwedd cyfnod'
Mae'r ymdeimlad o gymuned yn y Capel wedi bod yn werthfawr iawn i Mrs Whitehouse.
"Ma' hynny yn bwysig, ma' cael siarad Cymraeg yn bwysig, dwi wrth fy modd dod yn ôl i Gymru a clywed yr iaith o fy nghwmpas i, a 'dach chi ddim yn cael hynny oni bai bo chi'n mynd i'r Capel yn Birmingham," meddai.
"Ma' hi'n ddiwedd cyfnod. Dwi'n meddwl bod o wedi dod i ben yn naturiol. Does 'na ddim gymaint o bobl ifanc yn mynd i'r capel yng Nghymru ag os nad yda chi'n mynd i'r Capel pan 'dach chi'n blentyn, dwi'n meddwl bod hi'n anodd iawn wedyn os da chi'n symud i Birmingham er enghraifft os nad yda chi wedi arfer mynd adra yng Nghymru."
Ond mae'r Parchedig Robert Parry yn parhau yn obeithiol.
"Yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod y Gymraeg yn ennill ei lle yn fwy rwan nag erioed a hefyd ma' Cymry Cymraeg yn dal i deithio'r byd," meddai.
"Fe hoffwn i feddwl pan fydd yr hinsawdd ysbrydol yn well, pan fydd pobl ifanc yn mynd yn ôl i'r capeli, dwi reit ffyddiog ymhen blynyddoedd y bydd yna wastad addoli yn Gymraeg yn digwydd yn Lloegr, oherwydd mi fydd 'na gelloedd bach yma a thraw felly dwi ddim yn colli calon yn gyfan gwbl."
