Cefnogwyr y Gweilch yn cynnal protest yn erbyn cynlluniau Undeb Rygbi Cymru
Cefnogwyr y Gweilch yn cynnal protest yn erbyn cynlluniau Undeb Rygbi Cymru
Fe wnaeth cefnogwyr rhanbarth rygbi’r Gweilch gynnal protest cyn eu gêm yn erbyn y Dreigiau ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont nos Sadwrn, gan wrthwynebu'r posibilrwydd y gallai Undeb Rygbi Cymru gael gwaraed ar y rhanbarth.
Mae’n fwriad gan URC i ailstrwythuro’r drefn bresennol ac mae pryderon bod yr Undeb yn ffafrio uno’r Gweilch â Chaerdydd.
Rhaid newid pethau meddai’r Undeb i sicrhau dyfodol llewyrchus i dimau proffesiynol Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Cefnogwyr y Gweilch, Keith Collins: “Rwy’n teimlo mor gryf am beth mae’r undeb ishe neud i rygbi Cymru.
"Dim jyst i’r Gweilch, ma’ pawb yn y ffrâm, gall unrhyw beth ddigwydd.”
Dywedodd un o gefnogwyr y Gweilch, Non Thomas: “Mae e fel afon yn cynyddu a cynyddu mewn i llif ac mae gymaint o gefnogaeth gyda ni nawr o gyngor Abertawe, cyn-chwaraewyr, aelodau senedd, jyst y cyhoedd i gyd ac mae clybiau eraill yn gweld y sefyllfa hefyd.
“Os ma’r Gweilch yn mynd bydd clwb arall yn mynd. Nid ni fydd y cyntaf, ac mae’r cydymdeimlad a’r gefnogaeth yn dod o Loegr, Iwerddon a’r Alban.”
Daw’r brotest diweddaraf gan gefnogwyr y Gweilch yn dilyn cyhoeddiad Undeb Rygbi Cymru yr wythnos diwethaf eu bod nhw wedi ffafrio cais cwmni Y11, perchnogion y Gweilch i brynu Clwb Rygbi Caerdydd.
Mae URC eisoes wedi cynnig torri nifer timau dynion o bedwar i dri, cynllun sydd yn bygwth bodolaeth y Gweilch.
Dywedodd URC: “Bydd y cynlluniau gyda chwmni Y11 yn garreg filltir nodedig yn hanes rygbi yng Nghymru gan hefyd sicrhau sefydlogrwydd a dyfodol hirdymor i glwb y brifddinas.”