Rhybudd melyn am rew i rannau helaeth o Gymru

rhew / ia / ffordd / cerbyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau helaeth o Gymru.

Bydd y rhybudd yn dod i rym o 22:00 nos Sul tan 09:00 ddydd Llun 2 Chwefror.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ffyrdd heb eu trin, palmentydd a llwybrau seiclo gael eu heffeithio gan rew.

Maen nhw'n rhybuddio pobl i gymryd gofal wrth gerdded a bod risg anafu wrth gerdded ar hyd llwybrau llithrig.

Cyngor y Swyddfa Dywydd yw gwirio cyn teithio rhag ofn bod ffyrdd neu wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu heffeithio.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd isod:

Abertawe

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerdydd

Caerffili

Castell-nedd Port Talbot

Casnewydd

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Merthyr Tudful

Pen-y-bont

Powys

Rhondda Cynon Taf

Sir Benfro

Sir Ddinbych

Sir Gâr

Sir Fynwy

Torfaen

Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.