Newyddion S4C

Trafodaethau dros 'ail-leoli' lleoedd ar gwrs nyrsio Prifysgol Caerdydd i sefydliadau eraill

16/02/2025
Protest / Vikki Howells

Fe allai lleoedd ar gwrs nyrsio gael eu hail-leoli i sefydliadau eraill yn sgil cynlluniau Prifysgol Caerdydd i gau’r uned nyrsio, yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol am addysg uwch.

Fis diwethaf, daeth cadarnhad bod Prifysgol Caerdydd yn ystyried i gael gwared â 400 o swyddi llawn amser.

Fel rhan o’r newidiadau sydd wedi eu cynnig, mae’r Brifysgol yn ystyried cau pynciau a rhaglenni mewn Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Crefydd a Diwinyddiaeth, a Nyrsio.

Fe fydd yr ymgynghoriad dros y newidiadau yn para am 90 diwrnod. Mae disgwyl i’r cynlluniau terfynol gael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin 2025.

Fore Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Addysg Uwch, Vikki Howells AS, bod trafodaethau wedi cychwyn ynglŷn â symud lleoedd ar gyrsiau nyrsio i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd Ms Howells: “Rydyn yn hynod siomedig gyda’r hyn mae Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig, ac ar hyn o bryd, cynnig yw e i gau’r ysgol nyrsio.

"Ond drwy gorff Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), rydym yn gweithio’n agos iawn gyda phrifysgolion eraill yn yr ardal ac rydym yn hyderus pe bai Caerdydd yn bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau anffodus yma i dorri eu hysgol nyrsio, y gallwn ail-leoli’r lleoedd rheini i sefydliadau cyfagos fel nad oes bygythiad i’r targed o’r niferoedd o nyrsys yr ydym yn anelu i recriwtio.

“Allwn i ddim rhoi manylion eto, mae’r trafodaethau yn parhau, ond rydym yn hyderus y gallwn ni barhau gyda’r lefel o leoedd nyrsio o fewn yr ardal ac ar draws Cymru.”

'Hollbwysig'

Wythnos diwethaf, fe wnaeth tua 200 o bobl brotestio yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd i wrthwynebu cynlluniau i ddod a'r cwrs nyrsio i ben yn y brifysgol.

Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae 2,000 o swyddi nyrsio gwag yma ar hyn o bryd.

Image
Protest
Fe wnaeth tua 200 o bobl brotestio yn erbyn y toriadau wythnos ddiwethaf

Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw'n recriwtio nyrsys dramor yn ogystal â buddsoddi mewn hyfforddiant yng Nghymru, gyda thua 300 o nyrsys o Kerala, India yn cael eu recriwtio dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Ms Howells bod angen i Brifysgol Caerdydd “drafod gyda phawb” cyn penderfynu ar gau adrannau.

“Byddwn i’n annog nhw i edrych yn agos iawn ar eu cynigion a gwneud yn siŵr fod pob opsiwn wedi’i hystyried.

"Dw i’n gwybod y bydd undebau yn rhoi eu mewnbwn i’r ymgynghoriad, a staff a myfyrwyr hefyd, ac mae’n hollbwysig bod hynny i gyd yn cael ei ystyried.”

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod wedi lansio’r ymgynghoriad "gyda’r bwriad o wireddu ei hamcanion a diogelu dyfodol hirdymor y Brifysgol".

Daw'r cyhoeddiad yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled y wlad, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.