Dyn wedi colli mwy na £12,000 ar ôl cael ei sgamio gan dad a mab

ITV Cymru
John Skipper

Fe gollodd dyn fwy na £12,000 ar ôl cael ei sgamio gan dad a mab oedd yn trwsio toeau.

Roedd John Skipper a'i wraig Judith, o Sir Gâr angen trwsio to eu tŷ am ei fod yn gollwng yn 2020.

Ar y pryd roedd John yn gwella o ganser a strôc ac yn methu gwneud y gwaith ei hun.

Fe wnaeth rhywun argymell cwmni iddyn nhw ac fe wnaethon nhw dalu'r adeiladwyr Jim Janes a'i fab,  Thomas Michael Jim James.

Ond mae'r ddau nawr wedi eu carcharu am wyth mlynedd ar ôl gwneud dwsinau o wallau wrth drwsio toeon pobl ar draws de Cymru. 
 

'Teils wyneb i wared'

Daw hyn wrth i adroddiad newydd ddweud bod pobl wedi colli mwy na £239 miliwn yng Nghymru o achos adeiladwyr twyllodrus. Mae un ym mhob 10 o bobl sydd yn berchen ar gartrefi yng Nghymru yn dweud eu bod wedi dioddef yn ariannol o achos gwaith oedd ddim yn safonol neu ddim yn saff.

Mae yna alwadau i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol er mwyn amddiffyn cwsmeriaid ac enw da adeiladwyr sydd yn gwneud y gwaith i safon uchel.

Mae John yn dweud iddo gael tawelwch meddwl bod y tad a mab yn fusnes safonol ar ôl ymweld â'i gwefan a gweld adolygiadau pum seren.

Fe ddaeth Jim Janes i'r tŷ a dweud y byddai yn costio £9,000 i wneud y gwaith.

Dywedodd John fod y pris yn un "deniadol". "Mi oedd yn llai na mwyafrif y bobl. Mi oeddwn i wedi fy argyhoeddi."

Ond fe gododd y pris i £12,000 ar ôl i'r adeiladwyr ddweud bod problemau ychwanegol gyda'r to. Mae John yn dweud ei fod yn anabl ar y pryd a'i fod wedi gorfod derbyn y costau ychwanegol am nad oedd modd iddo fynd fyny i'r to ei hun i weld os oedd yna broblemau. 
 

Yn ôl John fe wnaethon nhw "rhoi'r teils ymlaen wyneb i wared".

Roedd ansawdd y to yn waeth wedi'r gwaith meddai.

8 mlynedd o garchar

"Mi oedd yn sych pan oedd o yma ond fe wnaeth hi fwrw'r wythnos wedyn ac mi oedd y to yn gollwng mewn llawer yn fwy o lefydd na cyn iddo gyrraedd. Am y ddwy flynedd wedyn mi o'n i yn ei gwrso fo i drwsio'r to. Mi o'n i wedi cywilyddio. Fi yw'r un sydd wastad yn gweld o bell os oes yna rywun am sgamio rhywun ond eto dyma fi fy hun wan yn cael fy sgamio."

Fe wnaeth John weithio gyda Safonau Masnach ac fe wnaethon nhw ddarganfod bod Jim Janes a'i fab Thomas Michael Jim James wedi sgamio nifer o bobl eraill ar draws de Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2025 cafodd y pâr ei dedfrydu i wyth mlynedd o garchar. Roedden nhw wedi targedu 48 o berchnogion tai ar draws de a gorllewin Cymru rhwng 2020 a 2025.

Mae Safonau Masnach yn dweud bod yr erlyniad wedi digwydd ar ôl tair blynedd o ymchwiliad a bod yna amcangyfrif o golled ariannol o dros £551,000 i'r 48 o berchnogion tai. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.