Cyn-aelod o’r Gwarchodlu Cymreig i uno cyn-filwyr o Ryfel y Falklands mewn her ddringo

Will Kevans
Will Kevans

Bydd cyn-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn uno cyn-filwyr o ddwy ochr Rhyfel y Falklands mewn her i ddringo mynydd uchaf yr Amerig.

Bydd Will Kevans yn arwain pedwar o gyn-filwyr Prydain ar daith 20 diwrnod i fyny Mynydd Aconcagua yn yr Ariannin. Yn ymuno gyda'r criw fydd chwech o gyn-filwyr Rhyfel y Falklands o'r Ariannin.

Bydd y daith yn codi arian ar gyfer elusen Climb 2 Recovery, elusen Brydeinig sy'n helpu cyn-filwyr milwrol i adsefydlu trwy ddringo.

Fe wnaeth Rhyfel y Falklands ddechrau ar 2 Ebrill 1982 pan wnaeth lluoedd yr Ariannin ymosod ar Ynysoedd Falkland.

Roedd y Gwarchodlu Cymreig yn rhan o Dasglu Prydain a gafodd eu hanfon yno i ryddhau'r ynysoedd.

Ar 8 Mehefin 1982, roeddent ar fwrdd y Sir Galahad yn Bluff Cove pan ymosododd awyrennau’r Ariannin ar y llong.

Cafodd 48 o bobl eu lladd yn ystod yr ymosodiad - gyda 32 ohonynt yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.

Daeth y rhyfel i ben chwe diwrnod yn ddiweddarach pan ddychwelodd Ariannin yr ynysoedd i Brydain.

'Cymod yn rym'

Nawr, 42 mlynedd yn ddiweddarach, mae ymgyrch Mynydd Aconcagua yn bwriadu cofio'r gwrthdaro gyda gweithred o gymodi.

Mae'r garfan Brydeinig yn cynnwys cyn-filwyr o'r Gwarchodlu Cymreig, Catrawd y Parasiwt, 9fed Sgwadron Parasiwt y Peirianwyr Brenhinol a 7fed Reifflau Gurkha Dug Caeredin. Mae'r garfan o'r Ariannin yn cynnwys cyn-filwyr goresgyniad Ynysoedd y Falklands.

Fe wnaeth Will Kevans, 59 oed, gysylltu â chyn-filwyr o’r Ariannin am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ôl.

Roedd eisiau cael eu persbectif ar y gwrthdaro ar gyfer llyfr cartŵn yr oedd yn ei ysgrifennu ar y pryd.

Cafodd ei lyfr, My Life in Pieces, ei ddefnyddio yn ddiweddarach fel sail ar gyfer rhaglen ddogfen Panorama’r BBC. Fe wnaeth grŵp o gyn-filwyr y Gwarchodlu Cymreig yn ailymweld â’r ynysoedd yr oeddent wedi ymladd arnynt yn eu harddegau yn y rhaglen. 

"Fe wnaeth ein cyswllt cychwynnol sbarduno sgwrs a arweiniodd yn ei thro at gyfeillgarwch hirdymor," meddai Mr Kevans.

"Mae gan gyn-filwyr milwrol ar y ddwy ochr lawer yn gyffredin - roedden ni i gyd yn ifanc, roedden ni’n gwneud ein gwaith a boed chi’n ennill neu’n colli’r gwrthdaro, mae gennych chi brofiad cyffredin o frwydro ac o golli cyd-gymrodyr a ffrindiau. 

"Rydym hefyd yn anrhydeddu cof y cyn-filwr Gwarchodlu Cymreig Ken Chappell, cyn-filwr y Falklands a mynyddwr a fu farw’n anffodus o salwch eleni. 

"Roedd wedi cael ei ystyried ar gyfer ein tîm, felly roedd yn golled drist. Byddwn yn cario ei ysbryd a'r rhai a gollwyd gennym i ben y mynydd gyda ni."

Fe aeth ymlaen i ddweud fod y daith yn "ymwneud ag ysbryd brawdgarwch" yng "ngwlad enedigol ein cyn-elynion". 

"Mae’n ymwneud â rhannu ein straeon gyda chyn-elynion ac anrhydeddu cof y rhai rydyn ni i gyd yn eu cario gyda ni," meddai.

"Mae'r byd heddiw yn gynyddol elyniaethus gyda rhyfeloedd creulon yn digwydd.

"Rydyn ni eisiau dangos y gall cymod fod yn rym cadarnhaol er daioni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.