Trump yn ystyried camau milwrol i gymryd rheolaeth o'r Ynys Las
Mae'r Arlywydd Trump yn ystyried opsiynau i gymryd rheolaeth o'r Ynys Las gan gynnwys camau milwrol meddai'r Tŷ Gwyn.
Yn ôl y Tŷ Gwyn mae hyn yn "flaenoriaeth diogelwch cenedlaethol".
Yn yr Artig mae'r Ynys Las ac mae yn rhan o deyrnas Denmarc. Mae Prif Weinidog Denmarc wedi rhybuddio y byddai unrhyw ymosodiad gan America yn golygu diwedd i gynghrair milwrol Nato.
Mewn datganiad mae'r cynghreiriaid eraill Ewropeaidd hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i Denmarc gan gynnwys Prydain.
"Mae'r Ynys Las yn perthyn i'w phobl a dim ond Denmarc a'r Ynys Las all benderfynu ar faterion sydd yn ymwneud â'i pherthnasau," meddai'r datganiad.
Mae wedi ei arwyddo gan Brydain, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Eidal, Gwlad Pwyl, Sbaen a Denmarc.
Mae'r datganiad yn dweud mai trwy Nato y mae modd amddiffyn diogelwch America.
Croesawu'r datganiad wnaeth Prif Weinidog yr Ynys Las gan alw am "sgwrs barchus".
Mae yna bryderon bod America yn bwriadu gweithredu yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd yn Venezuela. Cafodd Arlywydd y wlad, Nicolás Maduro, ei gipio dros y penwythnos gan luoedd yr Unol Daleithiau.
Mae gan yr Ynys Las boblogaeth o 57,000 ac mae wedi bod gyda llywodraeth ei hun ers 1979. Ond mae materion tramor ac amddiffyn dal yn faterion y mae gan Denmarc rheolaeth.
Barn mwyafrif y bobl ar yr ynys yw y dylai hi ddod yn llwyr annibynnol o Denmarc. Mae'r polau piniwn yn dangos gwrthwynebiad i'r ynys ddod yn rhan o America.
Mae gan America safle milwrol ar yr Ynys Las.
Llun: Reuters