2025 y flwyddyn brysuraf i griw achub mynydd yn Eryri

s4c
2025 oedd y flwyddyn brysuraf eto i griw achub mynydd yn Eryri.  
 
Cafodd criw achub mynydd Llanberis, y prysuraf trwy'r Deyrnas Unedig eu galw 358 o weithiau, a bu'n rhaid anfon tîm llawn i ymateb i 232 o'r galwadau hynny ar yr Wyddfa.  
 
Roedd naw trychineb ar y mynydd.  
 
Ym mis Rhagfyr, roedd 10 ymgyrch achub, gyda chwech ohonyn nhw ar Grib Goch, lle mae sawl trychineb wedi digwydd.     
  
Roedd nifer fawr o'r rhai a oedd angen cymorth yn gerddwyr dibrofiad, gyda diffyg ymchwil a pharatoi ar gyfer amodau'r tywydd yn ffactor, yn ôl y criw o wifroddolwyr. 
   
Llwybr Llanberis oedd y man prysuraf, ar gyfer ymdrechion achub.
 
Dywedodd Jurgen Dissman, cadeirydd Criw Achub Mynydd Llanberis: "Mae'r flwyddyn wedi dod i ben gyda'r nifer uchaf erioed o alwadau unwaith eto, gyda'r niferoedd yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.   
 
Tra ein bod yn annog pobl i fynd allan a mwynhau'r mynyddoedd, mae'n bwysig fod pobl yn paratoi yn gywir, yn ymchwilio i'w llwybrau, yn gwirio'r tywydd, ac yn sicrhau fod ganddyn nhw'r cyfarpar a'r wybodaeth gywir cyn dechrau ar eu taith." 
   
Roedd 2025 y flwyddyn brysuraf i dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen hefyd, wedi iddyn nhw dderbyn 186 o alwadau.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.