Cynllun i ostwng y lefel gyrru dan ddylanwad alcohol yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun newydd i ostwng y lefel gyrru dan ddylanwad alcohol yng Nghymru a Lloegr, gyda'r bwriad o wella diogelwch ar y ffyrdd.
Ar hyn o bryd 35 microgram o alcohol fesul 100ml o anadl yw'r terfyn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sef yr uchaf yn Ewrop.
O dan y Strategaeth Diogelwch Ffyrdd, sef y cyntaf o'i bath mewn dros ddegawd, byddai modd gostwng hynny i 22 microgram yng Nghymru a Lloegr.
Os caiff y mesur ei gymeradwyo, byddai Cymru a Lloegr yn dilyn yr Alban a gyflwynodd y newid yma i'w terfyn gyrru dan ddylanwad alcohol yn 2014.
Mae'r pŵer i leihau terfyn gyrru dan ddylanwad alcohol yng Ngogledd Iwerddon wedi'i ddatganoli i Gynulliad Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd Cymru".
Ymhlith mesurau eraill sydd wedi cael eu cynnig fel rhan o'r strategaeth mae cyflwyno profion golwg gorfodol unwaith y bydd gyrwyr yn cyrraedd 70 oed.
O dan ystyriaeth hefyd, mae cyflwyno cyfnod dysgu gofynnol o dri neu chwe mis ar gyfer gyrwyr newydd, er mwyn "rhoi mwy o amser i'r rhai sy'n dysgu gyrru ddatblygu eu sgiliau mewn amrywiol amodau, fel gyrru yn y tywyllwch, tywydd gwael neu yng nghanol traffig trwm."
Y bwriad hefyd yw ymateb yn llymach i yrwyr heb yswiriant a'r rhai sydd â phlatiau rhif anghyfreithlon.
Mae'r Llywodraeth hefyd eisiau ei gwneud yn ofynnol i rai gyrwyr sydd eisoes wedi eu cyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol i gael cloeon alcohol ar eu ceir, sef dyfeisiau sy'n atal cerbyd rhag cael ei yrru oni bai bod y gyrrwr yn pasio prawf anadl.
'Achub miloedd o fywydau'
Mae'r strategaeth yn anelu at ostwng marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd Prydain o 65% erbyn 2035, ac o 70% i blant dan 16 oed.
Mae 22 o wledydd Ewropeaidd wedi gwneud "mwy o gynnydd na'r DU" wrth geisio gostwng marwolaethau yn sgil damweiniau ffyrdd, meddai'r Adran Drafnidiaeth.
Mae nifer y bobl a gafodd eu lladd ar ffyrdd Prydain wedi gostwng yn gyffredinol ers y 1970au, ond mae'r gostyngiad wedi arafu ers 2010. Roedd 7,763 o farwolaethau ar y ffyrdd yn 1972, 1,850 yn 2010 a 1,602 yn 2024.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Heidi Alexander y bydd y strategaeth yn "achub miloedd o fywydau".
"Mae pob bywyd sy'n cael ei golli ar ein ffyrdd yn drasiedi sy'n dinistrio teuluoedd a chymunedau," meddai mewn datganiad.
"Am gyfnod rhy hir, mae cynnydd ar ddiogelwch ffyrdd wedi dod i stop. Mae'r strategaeth hon yn nodi trobwynt. Rydym yn cymryd camau pendant i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb, o yrwyr newydd sy'n cymryd eu gwersi cyntaf i fodurwyr hŷn sydd eisiau cynnal eu hannibyniaeth.
"Bydd y mesurau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn achub miloedd o fywydau dros y degawd nesaf."