Newyddion S4C

Rali y tu allan i'r Senedd yn galw am ‘addysg Gymraeg i bawb’

15/02/2025
Rali Cymdeithas yr Iaith

Mae rali wedi ei chynnal y tu allan i’r Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod "addysg Gymraeg i bawb".

Mae Cymdeithas yr Iaith, a drefnodd y digwyddiad, yn dymuno gweld Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei "gryfhau", gan “wneud mwy na chadarnhau mewn deddf y ddarpariaeth addysg Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd".

Fis diwethaf, fe wnaeth y gymdeithas beirniadu “diffyg egni a diffyg cyfeiriad” y Llywodraeth wrth geisio cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg ers yr haf ac mae’r Senedd yn ei drafod ar hyn o bryd.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gytunodd y Llywodraeth i welliant gan Blaid Cymru i’r bil, gan ddatgan mai isafswm oedd y targed 1 miliwn a “nid nenfwd”

Ond yn ôl y gymdeithas, gwrthododd y Llywodraeth pob gwelliant “o sylwedd”.

Ymhlith y gwelliannau a gafodd eu gwrthod, oedd gosod targedau statudol ar gyfer cynyddu'r ganran o blant mewn addysg Gymraeg, cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy’n dysgu drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, a sicrhau cyllid digonol i uwchraddio sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.

Image
Rali

Ddydd Sadwrn, daeth ymgyrchwyr i risiau’r Senedd, gan adael cardiau yn galw ar yr ysgrifennydd cabinet dros yr iaith, Mark Drakeford AS, i ‘gryfhau’r bil’.

Wrth annerch y dorf yn y rali, dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni eisiau gweld pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r iaith, nid y lleiafrif ffodus yn unig. 

“Ni’n galw am ddeddf addysg Gymraeg i bawb fydd yn cynnwys, ymysg mesurau eraill, gosod targedau statudol ar wyneb y ddeddf i dyfu addysg Gymraeg ar lefel lleol a chenedlaethol a gosod nod hirdymor o droi pob ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg

“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth yw’r bil yma. Rhaid inni felly beidio â cholli’r cyfle, a cholli cenhedlaeth arall o blant i system sy’n eu gadael nhw lawr.”

Yn ôl arolwg a chyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, mae saith o bob deg o Gymry (72%) yn dweud ei bod o leiaf braidd yn bwysig i blant Cymru ddysgu Cymraeg mewn ysgolion, o gymharu â dim ond chwarter (25%) sy’n dweud nad yw’n bwysig iawn neu ddim yn bwysig o gwbl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod Bil y Gymraeg ac Addysg yw rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol, erbyn 2025, beth bynnag fo'u cefndir a chategori iaith yr ysgol maent yn mynychu.

"Mae’r bil hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd o gynyddu canran y bobl ifanc sy'n dechrau addysg cyfrwng Cymraeg."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.