Newyddion S4C

'Dwy ran o dair' yn gefnogol i ymdrechion i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg

Cymraeg

Roedd dwy ran o dair o bobl gafodd eu holi ar gyfer arolwg newydd yn cefnogi ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

Ond roedd un o bob pump o Gymry yn anghytuno â’r defnydd o’r Gymraeg, yn ôl arolwg You Gov.

Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf yn 2021, fe wnaeth y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg ostwng i’w lefel isaf erioed.

Mae arolwg diweddaraf YouGov, a wnaeth holi 1312 o bobl, yn dangos bod 20% o Gymry yn "anghytuno" ag ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, o gymharu â dwy ran o dair (67%) sydd o blaid.

Mae’r rhai sy’n gallu siarad Cymraeg yn fwy brwdfrydig, gyda naw o bob deg (92%) yn cytuno â’r ymdrechion i ehangu’r defnydd o’r iaith, ond mae 63% o’r rhai nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg hefyd yn gefnogol.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos rhaniad gwleidyddol yn yr ymatebion.

Ymhlith y Cymry sy’n pleidleisio i bleidiau chwith o’r canol mae cefnogaeth eang i'r iaith, gyda 95% o bleidleiswyr Plaid Cymru a 73% o’r Blaid Lafur yn cytuno ag ymdrechion i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r niferoedd sydd yn anghytuno i’w gweld ymhlith pleidleiswyr i’r dde o’r canol, gyda phleidleiswyr Reform UK yn tueddu i gymeradwyo’r iaith o 52% i 34%, a chefnogwyr y Ceidwadwyr yn cael eu rhannu'n fwy cyfartal - 45% o blaid a 48% ddim yn gefnogol.

Er bod cymeradwyaeth eang i ymdrechion i hybu’r Gymraeg, mae’r brwdfrydedd dros hyrwyddo pellach yn fwy cyfyngedig.

Dim ond traean (32%) o ymatebwyr i’r arolwg sy’n credu nad yw’r ymdrechion i annog defnydd o’r Gymraeg wedi mynd yn ddigon pell, o gymharu â 36% sy’n gweld y lefelau presennol yn ddigonol.

Dim ond un o bob pump (21%) sy’n teimlo bod hyrwyddo’r Gymraeg wedi mynd yn rhy bell.

Arwyddion dwyieithog

O rhn adlewyrchu dwyieithrwydd mewn gwybodaeth gyhoeddus, mae tua thri chwarter o Gymry (73-76%) yn credu y dylai’r holl fathau o wybodaeth, o gyhoeddiadau’r cynghorau i arwyddion mewn siopau, gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg bob amser.

Mae darlun tebyg pan ddaw at ddysgu Cymraeg mewn ysgolion.

Mae saith o bob deg o Gymry (72%) yn dweud ei bod o leiaf braidd yn bwysig i blant Cymru ddysgu Cymraeg mewn ysgolion, o gymharu â dim ond chwarter (25%) sy’n dweud nad yw’n bwysig iawn neu ddim yn bwysig o gwbl.

Hyd yn oed ymhlith pleidleiswyr Ceidwadol a Reform UK, mae mwyafrif bychan (54%) yn dweud ei bod yn bwysig i blant ysgol ddysgu Cymraeg, er bod hyn yn llai na’r 80% o bleidleiswyr Llafur a 96% o bleidleiswyr Plaid Cymru sy’n dweud yr un peth.

Mae pobl hefyd yn dueddol o weld y Gymraeg yn bwysicach i blant ei dysgu na iaith dramor, gyda 45% yn gweld dysgu Cymraeg yn well, o gymharu â 35% sy’n gweld dysgu iaith dramor yn bwysicach. 

Mae'r rhai na allant siarad Cymraeg, fodd bynnag, wedi'u rhannu'n gyfartal (39% o'i gymharu â 39%) yn eu barn dros ba iaith sy'n fwy defnyddiol i'w dysgu.

Llun gan Working Word (CC BY-ND 2.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.