'Ni ddylai byth ddigwydd eto': Teyrnged i ddau ddyn a fu farw wrth weithio ar reilffordd
Mae teuluoedd dau ddyn a fu farw ar ôl cael eu taro gan drên wrth weithio ar y cledrau yn dweud na ddylai’r digwyddiad ‘byth gael ei ailadrodd’.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafodd Network Rail ddirwy o £3.75m yn dilyn marwolaethau Gareth Delbridge, 64, a Michael ‘Spike’ Lewis, 58.
Cafodd y ddau eu taro gan drên Great Western Railway oedd yn teithio o Abertawe i Paddington ym mis Gorffennaf 2019.
Roedd y ddau ddyn wedi bod yn gweithio i Network Rail ym Margam, ger Port Talbot, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Daeth trydydd gweithiwr yn agos at gael ei daro, ac fe ddioddefodd “trawma difrifol” yn ôl adroddiad blaenorol i’r digwyddiad.
Roedd Network Rail wedi cyfaddef yn flaenorol eu bod nhw wedi chwarae rhan ym marwolaethau’r dynion.
Yn dilyn y dyfarniad ddydd Gwener, fe wnaeth teuluoedd Mr Delbridge a Mr Lewis ryddhau datganiad drwy gwmni cyfreithiol Hugh James.
Dywedodd y datganiad: “Mae eu marwolaethau trasig yn atgof torcalonnus o’r risgiau y mae gweithwyr rheilffordd yn eu hwynebu bob dydd.
“Mae effaith ddwys eu colled yn parhau i gael ei theimlo’n ddwfn gan eu hanwyliaid, eu ffrindiau a’u cydweithwyr.
“Nid gweithwyr yn unig oedd Gareth a Mike; roeddent yn aelodau ffyddlon o'r teulu, yn ffrindiau annwyl, ac yn aelodau gwerthfawr o'u cymuned.”
'Dinistriol'
Ychwanegwyd: “Yr hyn sy’n gwneud y drasiedi hon hyd yn oed yn fwy dinistriol yw bod modd atal eu marwolaethau.
“Mae methiant eu cyflogwr a'r rheoleiddiwr i weithredu a gorfodi protocolau diogelwch priodol wedi achosi iddyn nhw i golli eu bywydau.
“Ni ddylai hyn erioed fod wedi digwydd ac mae angen atebolrwydd i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw deulu arall ddioddef yr un golled.”
Fe wnaeth y teuluoedd gydnabod fod cynnydd wedi’i wneud o ran diogelwch gweithwyr trac ers y digwyddiad yn 2019, ond dywedwyd eu bod yn gobeithio gweld y diwydiant yn “parhau i flaenoriaethu a gwella mesurau diogelwch”.
“Ni ddylai unrhyw fywyd gael ei roi mewn perygl diangen oherwydd methiannau systemig,” medden nhw.
“Er na all unrhyw newid o gwbl ddod â Gareth a Mike yn ôl, rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i sicrhau bod eu marwolaethau yn arwain at welliannau parhaol mewn diogelwch rheilffyrdd.”
Mewn datganiad, dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Wales & Borders, na ddylai marwolaethau “trasig” Mr Delbridge a Mr Lewis “fyth fod wedi digwydd ar ein rheilffordd”.
“Dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd â theuluoedd Gareth a Spike,” meddai.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw, a’r holl ffrindiau a chydweithwyr hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan eu marwolaethau.”