Dirwy £3.75m i Network Rail ar ôl i drên daro dau ddyn ger Port Talbot
Mae Network Rail wedi cael dirwy o £3.75m ar ôl i drên daro dau ddyn ger Port Talbot.
Cafodd Gareth Delbridge, 64, a Michael ‘Spike’ Lewis, 58, eu taro gan drên Great Western Railway oedd yn teithio o Abertawe i Paddington ym mis Gorffennaf 2019.
Roedd y ddau ddyn wedi bod yn gweithio i Network Rail ym Margam, ger Port Talbot, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Daeth trydydd gweithiwr yn agos at gael ei daro, ac fe ddioddefodd “trawma difrifol” yn ôl adroddiad blaenorol i’r digwyddiad.
Roedd Network Rail wedi cyfaddef yn flaenorol eu bod nhw wedi chwarae rhan ym marwolaethau’r dynion.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, dywedodd y Cofiadur Christian Jowett bod y cwmni wedi methu â rhoi mesurau priodol ar waith i amddiffyn y gweithwyr.
Dywedodd y barnwr fod materion yn ymwneud â pholisi diogelwch wedi bod yn hysbys ers peth amser a bod y cwmni wedi methu â gwneud gwelliannau.
Roedd angen i ddau weithiwr fod yn gwylio am drenau tra bod dau arall yn gweithio ar y trac, ond ni ddigwyddodd hynny, meddai.
“Roedd y dasg yn swnllyd oherwydd y math o beiriant oedd yn cael ei ddefnyddio,” meddai'r barnwr.
Dywedodd y barnwr nad oedd yr un o’r gweithwyr yn ymwybodol bod y trên yn agosáu “nes ei bod hi’n rhy hwyr”.
Mewn datganiad, dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Wales & Borders, na ddylai marwolaethau “trasig” Mr Delbridge a Mr Lewis “fyth fod wedi digwydd ar ein rheilffordd”.
“Dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod yn rheolaidd â theuluoedd Gareth a Spike,” meddai.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw, a’r holl ffrindiau a chydweithwyr hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan eu marwolaethau.”