Newyddion S4C

'Ansensitif': Cyngor yn ymddiheuro wedi i gwmni ffilmio drama mewn ysgol oedd wedi cau

16/02/2025
Ysgol Gynradd Rhigos

Mae cyngor wedi ymddiheuro i deuluoedd yng Nghwm Cynon ar ôl i ddisgyblion hen ysgol weld plant yn mynd i mewn i’r adeilad gan achosi dryswch. 

Roedd cyn disgyblion Ysgol Gynradd Rhigos wedi gweld plant yn chwarae ar iard eu hen ysgol heb wybod eu bod yn actorion mewn cyfres deledu newydd fydd yn cael ei darlledu gan Sky.

Fe gafodd yr ysgol ei chau ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf bleidleisio o blaid y cam ym mis Ebrill y llynedd, a hynny yn groes i ddymuniadau pobl leol. 

Fe gafodd trigolion wybod y byddai safle’r hen ysgol yn cael ei ddefnyddio fel rhan o set ‘Under Salt Marsh’ yn gynharach eleni. 

Wrth siarad â Newyddion S4C ym mis Ionawr, dywedodd rhai rhieni eu bod nhw wedi “siomi” gyda phenderfyniad y cyngor i ganiatáu cwmni cynhyrchu i ffilmio yn yr adeilad ar ôl atal plant lleol rhag cael eu haddysg yno.

Roedd cynghorydd lleol Hirwaun, Penderyn a Rhigos wedi dweud bod plant wedi “drysu” ar ôl gweld plant eraill yn mynd i’w hen ysgol. 

Roedd rhai wedi gofyn i’w rhieni os oeddent yn cael dychwelyd yno gan ei fod yn ymddangos ar agor, meddai Karen Morgan sy’n cynrychioli Plaid Cymru.

'Amharchus'

Wrth siarad ag aelod cabinet Rhondda Cynon Taf dros addysg, y cynghorydd Rhys Lewis, yng nghyfarfod y cyngor ddydd Mercher, fe ofynnodd Ms Morgan a oedd Mr Lewis yn cytuno bod y digwyddiad yn “amharchus.” 

Dywedodd Ms Morgan bod gweld grŵp o blant eraill ar safle’r ysgol mor fuan ar ôl iddi gael ei chau yn “ansensitif” i deimladau plant a thrigolion Rhigos – yn enwedig gan nad oeddent am weld yr ysgol yn cau. 

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn cytuno a Ms Morgan a’i fod yn “hynod o siomedig” i ddysgu bod yr ysgol wedi cael ei defnyddio fel lleoliad ffilmio. 

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i roi caniatâd i gwmni Little Door (USM) Ltd ffilmio yn yr ysgol ar ran cwmni cynhyrchu lleol.  

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor ar y pryd y byddai'n “derbyn tâl ariannol” fel rhan o’r cytundeb ac mi fyddai hynny’n “sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o unrhyw gyfleoedd i ennill arian ar gyfer trethdalwyr, hyd yn oed o safleoedd gwag."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.