'Siom' rhieni wrth i hen ysgol 'annwyl' serennu mewn cyfres deledu
Mae rhieni sy’n byw mewn pentref yng Nghwm Cynon wedi mynegi eu rhwystredigaeth ar ôl cael gwybod y bydd hen ysgol gynradd leol sydd wedi cau yn cael ei defnyddio fel safle i ffilmio cyfres deledu newydd.
Bydd adeilad Ysgol Gynradd Rhigos yn rhan o set ‘Under Salt Marsh’ – sef gyfres deledu newydd ar Sky.
Ond wedi i Gyngor Rhondda Cynon Taf bleidleisio o blaid cau ysgol gynradd leiaf y sir ym mis Ebrill y llynedd, nid pawb sy’n hapus i’r ysgol “annwyl” serennu yn y gyfres.
Roedd bron i 1,500 o bobl leol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau i gau Ysgol Gynradd Rhigos yn swyddogol. Fe wnaeth cannoedd yn rhagor hefyd brotestio yn y misoedd cyn y bleidlais.
Bellach mi fydd yr ysgol yn rhan o bentref ffuglen ‘Morfa Halen’ yng nghyfres Sky. Bydd y gyfres yn dilyn hanes cyn dditectif sydd wedi troi’n athrawes ar ôl iddi ddarganfod corff disgybl 8 oed.
Bydd sawl wyneb adnabyddus yn ymddangos yn y gyfres, yn cynnwys yr actor Cymraeg Rhodri Meilir (Pren Ar Y Bryn, Craith), y Gymraes Kimberley Nixon (Fresh Meat) a’r actor Kelly Reilly (True Detective, Yellowstone), fydd yn chwarae'r prif rôl, Jackie Ellis.
'Siomedig'
Mae Isabelle Morgan yn fam i ddau o blant. Roedd yn disgwyl yn wreiddiol i’w mab, Ivor sydd yn dair blwydd oed, gychwyn fel disgybl yn Ysgol Gynradd Rhigos ym mis Medi y llynedd. Ysgol gyfrwng Saesneg oedd hi tan iddi gau.
“O’n i eisiau iddo fynd i ysgol Rhigos oherwydd mae holl deulu fy ngŵr wedi mynd yno ar hyd y blynyddoedd… am ysgol annwyl a hardd,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
Dywedodd ei bod hi wedi “siomi” gyda phenderfyniad y cyngor i ganiatáu cwmni cynhyrchu i ffilmio yn yr adeilad ar ôl atal plant lleol rhag cael eu haddysg yno bellach.
“Mae’n ergyd siomedig, yn enwedig i’r holl famau a wnaeth eu gorau glas i’r ysgol.
“Os ydi e’n ddigon diogel i ffilmio yna, dyle bod e’n ddigon diogel i fod yn ysgol,” meddai.
Prif resymau Cyngor Rhondda Cynon Taf dros gau’r ysgol oedd y darogan y byddai nifer disgyblion yr ysgol yn parhau i ostwng. Roedd yna hefyd rhestr o waith cynnal a chadw ar yr adeilad a fyddai wedi costio tua £184, 790. Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod diffyg hygyrchedd yn yr adeilad ymhlith y rhesymau dros gau’r ysgol hefyd.
Mae Ivor bellach ymhlith nifer o blant eraill sydd wedi ymuno ag Ysgol Gynradd Penderyn, sef ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae plant eraill yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Hirwaun, sef ysgol cyfrwng Saesneg.
'Cwbl briodol'
Yn ôl cynghorydd lleol Hirwaun, Penderyn a Rhigos, mae rhwystredigaeth trigolion yn “gwbl briodol.”
“Mae trigolion wedi eu siomi… ac rydym yn rhannu eu rhwystredigaeth. Mae’n dangos pa mor bwysig oedd yr ysgol i’r gymuned,” meddai’r cynghorydd Adam Owain Rogers sy’n cynrychioli Plaid Cymru.
“Trwy gydol y broses o gau’r ysgol fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf nodi y bydden nhw’n fodlon cydweithio gyda grwpiau cymunedol a fyddai’n dymuno defnyddio’r ysgol er lles y gymuned.
“Hyd yma, does ‘na ddim ymgysylltu wedi bod gyda grwpiau sydd wedi mynegi diddordeb o’r fath.”
Mae Mr Rogers yn mynnu y dylai unrhyw gynlluniau o ran dyfodol yr hen ysgol gael eu trafod gyda’r gymuned, a bod hynny'n flaenoriaeth.
Rhwystredigaeth
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i roi caniatâd i gwmni Little Door (USM) Ltd ffilmio yn yr ysgol ar ran cwmni cynhyrchu lleol.
Fe fydd y cwmni lleol yn gyfrifol am gynhyrchu’r rhaglen deledu a fydd yn cael ei darlledu ar Sky TV.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn disgwyl i “ddogfennau angenrheidiol” gael eu cwblhau cyn iddyn nhw alluogi’r cwmni i gael mynediad i’r ysgol.
Mewn ymateb i rwystredigaeth trigolion lleol, dywedodd y llefarydd: “Fel Cyngor rydym yn cymeradwyo ceisiadau o’r fath gan gwmnïau cynhyrchu sy'n dymuno ffilmio mewn adeiladau caeedig a mannau agored o amgylch y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd y byddai’r cyngor yn “derbyn tâl ariannol” ac mi fyddai hynny’n “sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o unrhyw gyfleoedd i ennill arian ar gyfer trethdalwyr, hyd yn oed o safleoedd gwag."