Newyddion S4C

'Caerdydd yn anialwch celfyddydol' medd aelod o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru

opera cenedlaethol cymru

Fe fydd Caerdydd yn "anialwch celfyddydol" yn sgil toriadau i'r diwydiant celfyddydau, yn ôl un aelod o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Llinos Owen, sy'n chwarae'r basŵn yn y gerddorfa, bod prifddinas Cymru'n cael ei thanariannu gan Lywodraeth Cymru.

Daw wrth i aelodau’r corws brotestio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn dilyn perfformiad nos Sadwrn.

"Mae Caerdydd yn cael ei adael fel ryw fath o anialwch celfyddydol, yn enwedig lle mae cerddoriaeth glasurol yn y cwestiwn," meddai.

"Mae 'na doriadau yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, ac maen nhw'n ystyried cau'r adran gerddoriaeth yn y brifysgol.

"Mae'n bwysig bod 'na le i gerddorion proffesiynol y dyfodol gael gweithio a byw heb orfod gadael Cymru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi £755,000 o gyllid ychwanegol i Opera Cenedlaethol Cymru ym mis Rhagfyr.

Mae aelodau'r corws yn cynnal eu protestiadau yn sgil anghydfod dros swyddi a chyflogau.

Fe wnaeth 93% o'r corws bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ym mis Medi'r llynedd.

Yn ôl undeb Equity, mae'r cerddorion yn wynebu toriad cyflog o 15% yn ogystal â gostyngiad yn nifer yr aelodau o ganlyniad i ddiswyddiadau gorfodol.

'Llwm iawn'

Yn ôl Ms Owen, mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd yn y diwydiant celfyddydau.

"Y pwrpas ydi i godi ymwybyddiaeth o be' sy'n digwydd yn sgil y toriadau 'ma," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru ddydd Llun.

"'Da ni wedi pleidleisio i gael protestio, felly ar ddiwedd bob perfformiad, mae'r corws yn gwisgo eu crysau-T ac yn dal placards. 

"'Da ni ym mhwll y gerddorfa yn gwisgo ein crysau-T protest yn y perfformiad yn gyfa achos 'da chi ddim yn gweld ni gymaint o dan y llwyfan."

Ychwanegodd bod aelodau o'r gerddorfa hefyd yn dosbarthu taflenni i'r gynulleidfa er mwyn esbonio pam fod 'na lai o berfformiadau.

"'Da ni ddim yn mynd i Landudno y tymor yma, 'da ni fel arfer yn mynd dwywaith y flwyddyn. Mae'r toriada'n meddwl bo' ni ond yn mynd unwaith," meddai.

"Mae 'na swyddi'n cael eu colli, mae 'na 10 o swyddi'n cael eu colli yn y corws, mae 'na beryg fydd 'na swyddi'n cael eu colli yn y gerddorfa yn y flwyddyn nesa. 

"Ma 'na 20% o swyddi yn y gerddorfa wedi mynd yn barod ers cyn Covid."

Image
Perfformiad gan Opera Cenedlaethol Cymru
Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio 'La Traviata' yng Nghanolfan y Mileniwm

Dywedodd Ms Owen bod y sefyllfa'n "llwm" i gerddorion.

"Mae'n llwm iawn arna ni i fod yn onest, so 'da ni'n trio cael y gynulleidfa i ddeall mwy am y sefyllfa, i arwyddo'n deisebau ni, i sgwennu i aelodau seneddol nhw yng Nghaerdydd ac yn San Steffan hefyd er mwyn trio dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i ariannu'r celfyddydau'n well," meddai.

"Achos dim jyst cwmni ni, Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei effeithio - ella ni sydd o flaen y gad yn cael lot o'r toriadau ar hyn o bryd, ond mae'r celfyddydau yng Nghymru'n cael eu tanariannu cymaint a dydi hynna ddim yn deg ar bobl Cymru."

Er ei bod yn "falch" bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £755,000 o gyllid ychwanegol i'r corws y llynedd, mae hi'n galw am fwy o gefnogaeth ariannol.

"Oeddan ni'n falch ofnadwy o gael y cyllid ychwanegol yna flwyddyn dwytha," meddai.

"Ond i fod yn deg, chwarae bach ydi hynna... 'da ni efo twll yn y cwmni o £2.7 miliwn yn y cyllid y flwyddyn yma.

"Wrth gwrs, mae bob dim yn helpu, ond pan 'da chi'n cymharu efo faint o arian ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi - adag yna natho nhw roi £3.5 miliwn yn ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru. 

"Ar yr un adeg roedd Llywodraeth Lloegr yn rhoi cynnydd cyllid o £34 miliwn yn y flwyddyn nesa, felly mae gymaint llai."

Cynyddu cyllid

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw sector y celfyddydau i'n heconomi a'r cyfraniad hanfodol y mae'n ei wneud i'n cymdeithas, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.  

"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am ddosbarthu arian i Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau celfyddydol eraill. 

"Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ddarparu cyllid ychwanegol i Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at gronfa diogelu swyddi a gwytnwch gwerth £3.6m ar gyfer 60 o sefydliadau. Dyrannwyd £755k o'r cyllid ychwanegol hwn i'r Opera Cenedlaethol Cymru."

Ychwanegodd: "Rydym hefyd wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer sefydliadau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.