Newyddion S4C

'Amser am newid': Dwy chwaer o Gaernarfon yn lansio cynllun i hybu ffasiwn gynaliadwy

Lois ac Angharad Prys

Mae dwy chwaer o Gaernarfon wedi lansio prosiect yn y gobaith o annog pobl i feddwl am ffasiwn mewn ffordd fwy cynaliadwy gan ddweud “mae’n amser am newid.” 

Gyda’u prosiect, Llai, mae Lois ac Angharad Prys yn gobeithio newid meddylfryd trwy annog pobl i symud i ffwrdd o ffasiwn cyflym a thuag at ffasiwn gynaliadwy. 

Bydd y ddwy chwaer yn trefnu gweithdai mewn ysgolion lleol ac yn y gymuned er mwyn helpu pobl i ddysgu sut i drwsio, addasu neu wnïo eu dillad eu hunain. 

Dywedodd Angharad: “Gyda miloedd o dunelli o ddillad yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, mae’n amser am newid. 

“Rydyn ni eisiau i bobl feddwl cyn brysio i brynu’n newydd. 

“Edrychwch ar yr hyn sydd eisoes yn eich cwpwrdd dillad a dysgwch sut i newid neu drwsio’r hyn sydd gennych yn barod, prynu’n ail-law neu wneud eich dillad eich hun, fel ein bod yn fwy caredig i’r blaned a’n pwrs,” meddai. 

'Newid meddylfryd ac arafu'

Bydd y ddwy chwaer yn cynnal diwrnod arbennig yng nghanolfan Pontio Bangor ar 12 Ebrill, sef Digwyddiad Ffasiwn Araf.  

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda thri o gyn-gystadleuwyr The Great British Sewing Bee, gweithdai, caffi trwsio, ffair ffeirio dillad a sioe ffasiwn o ddillad wedi’u hailgylchu sydd wedi eu creu gan grwpiau cymunedol, ysgolion, a choleg lleol.

Bydd stondinau dillad hefyd gan frandiau ffasiwn gynaliadwy, siopau bwtîc ail-law a siopau elusen leol.

Dywedodd Lois: “Rydyn ni eisiau helpu pobl i newid eu meddylfryd ac arafu.  

“Mae cael gormod o ddillad yn gallu bod yn llethol, a byddwch chi’n synnu cymaint haws yw hi i ddod o hyd i rywbeth i’w wisgo pan fydd gennych lai o ddewis.

“Byddwn hefyd yn annog pobl i gefnogi eu siopau dillad annibynnol lleol a brandiau ffasiwn sy’n cynhyrchu eu dillad yn y DU gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy,” ychwanegodd. 

Mae prosiect Llai yn cael ei ariannu gan Menter Môn fel rhan o brosiect ehangach o’r enw Cylchol sy’n hyrwyddo pob agwedd o economi gylchol yng Ngwynedd a Môn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.