Newyddion S4C

Menyw wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda lori yng Nghas-gwent

CAS-GWENT

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a cherddwr yng Nghas-gwent fore dydd Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 07:30 ar y Stryd Gymreig yn y dref.

Cafodd y cerddwr, dynes 51 oed, ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau a all newid ei bywyd.

Cafodd dyn 30 oed o Sedbury ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, ac mae’n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae ymholiadau’r heddlu'n parhau ac mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio yn yr ardal rhwng 07:00 a 07.30 ddydd Llun i gysylltu gyda nhw.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys camera dashfwrdd neu gamerâu cylch cyfyng, gysylltu â'r llun drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu X gan ddyfynnu cyfeirnod 2500043760.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.