Newyddion S4C

Dyn anabl wedi gorfod gadael bwyty am ei fod yn edrych yn ‘rhy sâl’

Rhys Bowler

Mae dyn anabl o Drefforest, ger Pontypridd yn honni bod staff mewn bwyty yn y Barri wedi gofyn iddo adael gan ei fod yn edrych yn ‘rhy sâl’ i fwyta yno. 

Yn ôl Rhys Bowler, sy’n defnyddio cadair olwyn ac awyriadur (ventilator), digwyddodd hyn ym mwyty Rahil Tandoori yn Y Barri ar 14 Ionawr.

“Fe wnaethon ni archebu ymlaen llaw a dweud ‘Rydyn ni eisiau lle ar gyfer dwy gadair olwyn.’ Fe gyrhaeddon ni, ac fe wnaeth [yr aelod o staff] fynd â fy ngofalwr y tu allan, heb siarad gyda fi, a dywedodd ein bod yn rhy sâl i fwyta yno.”

“Pe bawn i’n berson anabl iau, oedd wedi mynd allan am y tro cyntaf ac wedi magu’r hyder i fynd i fwyty, yna dydw i ddim yn meddwl y byddwn i eisiau mynd allan fyth eto.”

Ychwanegodd Mr Bowler: “Mae’n bwysig i gymdeithas sylweddoli gymaint y gall hyn effeithio ar unigolyn. Dim ond anabl ydyn ni, dydyn ni ddim yn wahanol i unrhyw un arall. A byddech yn meddwl y byddai cymdeithas yn dechrau ein derbyn. Ond mae ambell berson yn ein trin ni’n wahanol.”

Roedd Mr. Bowler mewn grŵp o bedwar, oedd yn cynnwys Skye Jordan, sydd hefyd yn defnyddio cadair olwyn

Yn ôl Ms. Jordan, roedd hi wedi cysylltu â’r bwyty ymlaen llaw i neilltuo bwrdd ac i egluro fod angen lle i ddwy gadair olwyn

Mae hi’n honni bod aelod o staff wedi cynnig iddyn nhw archebu ‘takeaway’ o’r bwyty yn lle bwyta yno, a bod aelod o staff wedi esbonio bod ymwelwyr eraill wedi cwyno bod eu grŵp nhw yno.

Ond yn ôl Ms. Jordan, gwadodd yr ymwelwyr hynny iddyn nhw gwyno.  

Wrth ymateb i ITV Cymru dros e-bost, mae Mr Mohammad Alom, o’r bwyty, yn dweud: 

"Roeddwn i’n pryderu’n syth bod y ddau ddefnyddiwr cadair olwyn yn rhy sâl i ymweld â bwyty.

"Dydw i ddim yn berson sydd â chymwysterau meddygol a phe bai rhywbeth wedi digwydd, fyddwn i ddim wedi bod mewn sefyllfa i helpu. O ganlyniad, fe wnes i ofyn a fydden nhw'n gadael."

"Dydw i ddim yn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, ac rydym yn eu croesawu nhw i'n bwyty."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.