Diweithdra: Faniau'r Adran Waith i ymweld â stadiymau pêl-droed
Yn ôl Gweinidog Cyflogaeth San Steffan, Alison McGovern, mae ei llywodraeth eisiau "gweld pawb ym mhob cwr o'r DU ar eu hennill" drwy gael cynnig "swydd dda."
“Mae'r ganolfan waith symudol hon yn enghraifft berffaith o gynllun cynhwysol a hygyrch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn colli cyfle i gael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu," meddai Ms McGovern.
Mae tua 2.8 miliwn o bobol yn ddi-waith yn y DU oherwydd salwch hir-dymor.
2 filiwn oedd y ffigwr cyn y pandemig, yn ôl ffigyrau gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â'u hymdrechion i geisio annog mwy o bobl i ddod o hyd i waith, y gred yw bod gweinidogion yn ystyried cyflwyno amodau llymach ar gyfer y rhai sy'n hawlio budd-daliadau.