Safonau newydd i roi mwy o 'lais' i fenywod beichiog
Bydd disgwyl i fyrddau iechyd roi'r dewis llawn i fenywod beichiog gyda lleoliad geni, hyd yn oed os yw hynny'n golygu defnyddio gwasanaethau y tu hwnt i ffiniau eu bwrdd iechyd.
Dyna un newid wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi safonau newydd er mwyn gwella gofal mamolaeth a newydd enedigol.
Y nod, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yw sicrhau gwasanaethau diogel o ansawdd uchel.
Ac mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd gan fenywod beichiog a'u teuluoedd "fwy o lais" wrth ddatblygu gwasanaethau yn y maes.
Daw'r datblygiad wrth i dystiolaeth ddangos cymhlethdodau cynyddol yn ystod beichiogrwydd. Yn ôl y llywodraeth mae gan nifer o fenywod y cyflwr diabetes ac eraill â phroblemau iechyd meddwl amenedigol (perinatal).
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rydyn ni'n gwybod bod adroddiadau annibynnol yn y DU wedi tynnu sylw at bryderon ynglŷn â phrofiadau gwael menywod a babanod.
"Rydyn ni wedi gwrando ar y pryderon a byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i'r gofal maen nhw'n ei gael. Mae gwrando ar fenywod, rhieni a theuluoedd yn gallu achub bywydau, ac yn gwneud hynny.
"Rydyn ni'n helpu i roi gwelliannau ar waith ledled Cymru"
Mae'r llywodraeth yn dweud bod menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn wynebu rhwystrau sylweddol yn ystod beichiogrwydd, sy'n arwain at wahaniaethau negyddol.
O dan y cynllun, bydd disgwyl i fyrddau iechyd gynnal arolygon ac ymchwil. Byddant yn gwrando ar syniadau, pryderon ac adborth menywod beichiog ac yna yn gweithredu arnynt.
Bydd angen i fyrddau iechyd hefyd ymwneud â menywod o grwpiau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, er mwyn nodi unrhyw rwystrau wrth geisio cael gafael ar gymorth.