Cysgu tu ôl i siop yn 12 oed: Actor o Wynedd yn galw am flaenoriaethu digartrefedd

Y Byd yn ei Le

Cysgu tu ôl i siop yn 12 oed: Actor o Wynedd yn galw am flaenoriaethu digartrefedd

Mae angen mynd i’r afael â digartrefedd a thlodi drwy Gymru gyfan yn ôl un dyn ifanc sydd wedi profi cysgu ar y stryd. 

Dim ond 12 oed oedd Osian Lloyd pan brofodd ddigartrefedd am y tro cyntaf, gan gysgu mewn blwch metel tu ôl i'r Co-op ym Mlaenau Ffestiniog dros gyfnod Nadolig 2011.

Erbyn hyn mae Osian yn 27 oed ac yn actor proffesiynol, ond mae’n galw ar wleidyddion i flaenoriaethu dod a thlodi a digartrefedd i ben yng Nghymru. 

“Ges i fy mhrofiad cyntaf o ddigartrefedd yn  12 oed ar ôl i fi golli fy mam. Ro'n i yn cysgu tu ôl i siop i gysgodi. Yna es i i ofal a chael lle i fi fy hun ar fy mhen-blwydd yn 16,” meddai ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C. 

Mae tua 9,000 o bobl yng Nghymru yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro, gan gynnwys tua 2,600 o blant yn ôl ystadegau elusen Shelter Cymru. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag syrthio i dlodi ac i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.” 

‘Loteri côd post’ 

Mae Osian yn teimlo nad yw’r cymorth sydd ar gael i bobl sydd yn wynebu digartrefedd a thlodi yn gyson ar draws Cymru. 

“Dwi wedi profi digartrefedd yng ngogledd a de Cymru, ac o fy mhrofiad i mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn teimlo fel loteri côd post yn anffodus. 

“Ond dylai cefnogaeth i bobl sydd wir ei angen o fod ar gael i bawb, mewn dinasoedd ac yng nghefn gwlad Cymru.” 

Mae Osian yn galw am weithredu cymdeithasol yn ogystal ag arian i roi cymorth i’r bobl sy’n wynebu heriau fel tlodi a digartrefedd. 

“Dim jyst pobl ddigartref sydd yn angen y gefnogaeth. Dwi wedi defnyddio banciau bwyd a chyfarfod pobl o bob cefndir sy’n stryglo, pobl sydd mewn swyddi, fel nyrsys.” 

Mae degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar fanciau bwyd ac mae’r niferoedd yn cynyddu meddai elusen Trussell. 

Ychwanegodd Osian: “Wrth gwrs mae angen mwy o arian i gyflawni hyn, ond mae modd achosi newid ar lefel lleol hefyd, trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y gymuned. Dwi isio gweld y llywodraeth yn buddsoddi yn hynny.

 “Mae pobl yn teimlo bod gwleidyddion a’r llywodraeth wedi eu gadel nhw i lawr, da ni eisiau gweld newid. Mae pawb yn gallu wynebu heriau, ond ella bod rhai yn fwy lwcus na’i gilydd. Mae pobl isio teimlo fel bod y llywodraeth eisiau helpu.”

'Buddsoddi’

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pawb yn haeddu cartref diogel a sicr. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag syrthio i dlodi ac i gefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

“Rydym wedi buddsoddi mwy na £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi cartrefi ledled Cymru trwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian yn eu pocedi. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym yn buddsoddi bron i £240m mewn atal digartrefedd a chymorth tai.

“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod yn cael trafferth i gysylltu â llinell gymorth Hawlia dy arian AdviceLink Cymru i wirio pa gymorth ariannol y gallent fod â hawl iddo.”

Mae Y Byd yn ei Le ar gael i'w wylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.