'Pobl yn poeni ambwyti fe': Tirfeddianwyr yn cwyno am ymddygiad contractwyr cynllun peilonau
Wrth i ymgynghoriad newydd gael ei gynnal ar lwybr peilonau o fferm wynt ym Mhowys, mae tirfeddianwyr wedi cwyno am ymddygiad contractwyr sydd yn gwneud gwaith ar ran y cwmni sydd yn gyfrifol am y cynlluniau.
Mae Green GEN Cymru yn awyddus i gysylltu fferm wynt arfaethedig yn Nant Mithill ger Llandrindod gydag is-orsaf newydd yn Llandyfaelog, pellter o ryw 60 milltir.
Dywedodd un ffermwr nad oedd contractwyr wedi ystyried bioddiogelwch yn ddigonol er bod ei fferm dan gyfyngiadau TB.
Dywedodd Green GEN Cymru eu bod nhw'n cymryd unrhyw gyhuddiadau am eu timau "o ddifrif" ond bod rhai syrfewyr wedi cysylltu gyda'r heddlu yn sgil pryderon am eu "iechyd a diogelwch".
Yn gynharach eleni, fe aeth 500 o dirfeddianwyr â chwmni Green GEN Cymru i'r Uchel Lys, gan eu cyhuddo o "godi ofn" drwy ymddangos ar ffermydd yn ddirybudd.
Dyfarnodd yr Uchel Lys bod angen i'r cwmni roi mwy o rybudd i ffermwyr a chymryd gwell ystyriaeth o'r perygl o ledu clefydau anifeiliaid o fferm i fferm.
Ar hyn o bryd, mae Green GEN Cymru yn cynnal chwe digwyddiad ymgynghori ar lwybr peilonau newydd ynghyd a defnyddio polion newydd a thanddaearu mewn mannau penodol.
Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir o ganlyniad i'w waith ar yr hyn allai fod yn isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.
Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Newyddion S4C wedi cael gwybod am densiynau rhwng timau syrfeio a thirfeddianwyr ar hyd y llwybr.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn cwyn am ymosodiad honedig ar dir fferm yn Llanynis ger Llanfair-ym-Muallt fore Mercher, ble roedd menyw yn honni iddi gael ei gwthio gan ddyn.
Dywedodd y llu bod y digwyddiad wedi cael ei nodi ac fe fydd yn cael ei "neilltuo ar gyfer ymchwiliad".
Mewn datganiad, dywedodd Green GEN Cymru ei bod yn "parchu hawl pobl i fynegi barn a phrotestio yn heddychlon" a bod yn disgwyl i ymgysylltu "ddigwydd mewn ffordd broffesiynol a pharchus".
"Rydym yn ystyried unrhyw gyhuddiadau ynglŷn ag ymddygiad timau fel mater difrifol, a ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw am achosion unigol," meddai.
"Serch hynny, mae yna nifer o ddigwyddiadau difrifol wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf ble mae ein timau syrfeio wedi cysylltu gyda'r heddlu yn sgil pryderon am eu diogelwch.
"Rydym yn parhau mewn cysylltiad gyda Heddlu Dyfed-Powys. Diogelwch staff, contractwyr, tirfeddianwyr ac aelodau'r cyhoedd yw ein blaenoriaeth."
'Pobl yn poeni ambwyti fe'
Cysylltodd un ffermwr o Landeilo, oedd yn dymuno aros yn ddienw, gyda rhaglen Newyddion S4C ac fe gododd bryderon am ddiogelwch yn dilyn ymweliad diweddar.
"Maen nhw yn dod lan heb y gwaith papur cywir a bŵts brwnt," meddai.
"Ni dan (gyfyngiadau) TB a s'dim un surveyor wedi cael gwybod hynny o flaen llaw. Mae e fel se nhw ddim yn gwneud effort o gwbl.
"Dyw nhw ddim (yn glanhau ei sgidiau) yn neud e'n iawn a ni wedi codi hwn gyda nhw. A s'dim ateb da nhw."
Gwadodd bod tirfeddianwyr yn ceisio atal y cynlluniau.
"Na. Mae'n rhaid i'r gwaith papur a'r insurances a biosecurity fod yn iawn," meddai.
"Er mwyn iddyn nhw fod yn saff, ac i ni fod yn saff."
Dywedodd y ffarmwr ei fod yn pryderu am wrthdaro posib gyda chontractwyr wrth i weithgaredd gynyddu yn yr ardal.
"Mae pobl yn poeni ambwyti fe. Maen nhw yn mynd lot fwy pushy," meddai.
"Maen nhw yn gofyn os ni'n refuso entry neu obstruction. Maen nhw yn bod yn rili rili pushy ar y foment.
"So nhw yn bodlon siarad 'da neb. Mae'n rhaid i bawb engago gyda'i gilydd. Bydde fe'n lawer rhwyddach i bawb.
"Mae jyst eisiau nhw wneud eu gwaith yn iawn."
Cafodd Newyddion S4C ymateb Owen Llewellyn Jones, Rheolwr Materion Allanol Green GEN Cymru.
Mynnodd bod y cwmni wedi dysgu gwersi o'r dyfarniad yn yr Uchel Lys.
"Yn sicr, fe fyddwn ni yn edrych mewn i unrhyw achosion penodol i wneud yn siŵr fod y pethau cywir yn dilyn," meddai.
"Ers y judicial review, mae wedi dangos beth sydd angen cael ei wneud ynglŷn â biosecurity a nodi tirfeddianwyr.
"Da ni yn hyderus bod ni'n dilyn y proses yna. Os mae yna achlysuron penodol yn dod i Green GEN wrth gwrs byddwn ni yn trin nhw efo'r parch maen nhw yn haeddu oherwydd mae rhain yn pobl ni eisiau gweithio gyda am flynyddoedd.
"Ni angen dweud wrthon nhw. Da ni yn hyderus bod ni'n dilyn yn union y gwersi o'r dyfarniad."
'Mynd yn waeth'
Dywedodd Dyfan Walters, ffermwr ac ymgyrchydd yn erbyn y peilonau, wrth Newyddion S4C, bod pryderon wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf.
"Os rhywbeth, mae pethau yn mynd yn waeth. Mae shwd gymaint o enghreifftiau bod nhw jyst yn dod arno a dim parch i'r biosecurity," meddai.
"I fod yn onest, mae'r heddlu, wythnos hyn, wedi gorfod cael eu galw ar ddwy fferm wahanol. Mae'r ymddygiad yn ofnadwy.
"Dim gyda'r gwaith papur cywir a dim hawl mynd ar y tir ta beth.
"Ffermwyr yn edrych ar beth mae'r staff yma yn gwisgo.
"Dillad oedd ddim yn addas i fynd y fferm. Dillad oedd yn frwnt. Bŵts oedd yn frwnt.
"Mae pobl eisiau edrych ar ôl ei ffermydd a disgwyl bach o barch."
Roedd Mr Walters yn derbyn bod yr "hawl yna" iddyn nhw fynd ar y tir "ond fi'n credu bod eisiau iddyn nhw hefyd i ddilyn eu polisïau a dyw hwnna ddim yn digwydd".
Dywedodd Green GEN Cymru mai'r flaenoriaeth oedd diogelwch "staff, contractwyr, tirfeddianwyr ac aelodau'r cyhoedd".
Mae'r cwmni wedi annog y cyhoedd i fynychu digwyddiadau ymgynghori, gofyn cwestiynau a rhoi adborth cyn bod yr ymgynghoriad yn cau ar 24 Tachwedd.
