Dau o’r un mart yn cael eu henwi’n arwerthwyr y flwyddyn yng Ngwobrau Ffermio Prydain

Ffermio
Llun: Ffermio
Llyr Jones a Dafydd Waters

Mae dau arwerthwr sy'n gweithio yn yr un marchnad da byw yn Sir Gaerfyrddin wedi'i henwi'n arwerthwyr y flwyddyn yng ngwobrau'r British Farming Awards.

Cafodd Llyr Jones a Dafydd Waters, sy'n gweithio ym Mart Da Byw Caerfyrddin i gwmni Nock Deighton Agricultural, eu hanrhydeddu mewn seremoni yn Birmingham nos Iau.

Enillodd Llyr Jones wobr Arwerthwr y Flwyddyn, tra bod Dafydd Waters, sy'n 22 oed, wedi ennill gwobr Arwerthwr Newydd y Flwyddyn.

Mae'r ddwy wobr yn rhan o gystadleuaeth Marts the Heart, sy'n cydnabod cyfraniad arwerthwyr a marchnadoedd da byw at y diwydiant ffermio.

Mae'r gwobrau'n cael eu trefnu gan y cylchgrawn, Farmers Guardian.

Wrth siarad gyda rhaglen Ffermio ar S4C yn fuan wedi dychwelyd o'r gwobrau, dywedodd Dafydd ei fod wedi teithio i Birmingham heb ddisgwyl ennill.

"Mae'n anghredadwy rili, chi'n gwybod. O'n i'n mynd lan i Birmingham neithiwr, o'n i jyst yn mynd lan, yn falch mod i wedi cael ei enwebu," meddai.

"A ni'n hynod falch fel pâr, fel unigolion."

Roedd Llyr hefyd yn falch o'r gydnabyddiaeth, gan ddiolch i bawb oedd wedi cefnogi'r ddau.

"Ie, i gael y cydnabyddiaeth, mae'n meddwl y byd i ni," meddai.

Image
Marts the Hart

Mae Llyr Jones wedi gweithio fel arwerthwr ers iddo adael yr ysgol, gan ddechrau ei yrfa ym Mart Castellnewydd Emlyn.

Roedd hefyd yn rhan o'r gwaith i ailsefydlu Mart Caerfyrddin ar ôl iddo ailagor yn 2022.

Ymunodd Dafydd Waters â Nock Deighton ym mis Ionawr 2023, ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad arwerthiannau defaid y mart.

Mae'n helpu i ddod â dros 2,000 o ddefaid i'r farchnad a'u gwerthu bob wythnos, yn ogystal â gwerthu gwartheg a pheiriannau amaethyddol.

Mae hefyd yn astudio am radd ym Mhrifysgol Harper Adams.

Ond er gwaethaf noson o ddathlu yn Birmingham, roedd rhaid i'r ddau fynd yn syth yn ôl i'r gwaith fore Gwener.

Yn ôl Dafydd, roedd y ddau wedi cyrraedd yn ôl i'r mart tua phedwar y bore, gan gael awr neu ddwy o gwsg cyn dechrau gweithio eto.

"Straight 'nol at y gwaith nawr," meddai.

Ac er gwaethaf y dathlu, roedd Llyr yn benderfynol o fynd drwy'r diwrnod gwaith.

"Mae hi'n ddiwrnod prysur, a ma'r pen yn dost tym bach ond fi'n siwr fydd pawb sy'n llongyfarch ni a'r buzz o arwerthu'n cal ni drwyddo'r diwrnod," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.