Codi £50,000 ar gyfer baban o'r gogledd sydd â chyflwr iechyd prin
Mae dros £50,000 wedi ei gasglu ar gyfer baban o'r gogledd sydd â chyflwr iechyd prin.
Mae Rupert o Frychdyn yn Sir y Ffflint yn fab i Dave Smith sydd yn blismon gyda Heddlu'r Gogledd, a'r gobaith yw cyrraedd y nod o godi £150,000 ar gyfer triniaethau Rupert yn y dyfodol.
Cafodd y bachgen bach saith mis oed ei eni gyda chyflwr Hemiplegia Bob yn Ail yn ystod Plentyndod (AHC) - sydd yn arwain at ffitiau a diffyg anadlu.
Mae'n derbyn gofal yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam ac yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
'Taith anodd o'i flaen'
Wrth ysgrifennu am ei fab ar dudalen codi arian Rupert, dywedodd Mr Smith:
"Mae ein mab saith mis oed, Rupert, yn fachgen bach hardd, hapus, llawn gwên sy'n cyfarch y byd gyda dim byd ond cariad.
"Nid yw'n ymwybodol o gwbl o'r daith anodd sydd o'i flaen.
"Mewn dim ond saith mis byr, mae eisoes wedi dioddef mwy nag y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wynebu mewn oes. Er gwaethaf popeth, mae'n dal i wenu, a'r wên honno yw'r hyn sy'n rhoi'r nerth i ni barhau i ymladd drosto bob dydd."
Symptomau
Ychwanegodd Mr Smith: "Ar hyn o bryd nid oes iachâd ar gyfer AHC, ac mae symptomau'n amrywio'n fawr o ran amlder a difrifoldeb. Gall penodau gael eu sbarduno gan gyffro, gwres neu oerfel eithafol, twymyn, bwyd, newidiadau golau, ymdrech gorfforol, straen, a chyffwrdd a dŵr.
"Gall y penodau hyn bara munudau, oriau, neu hyd yn oed ddyddiau, a gallant ddigwydd heb rybudd.
"Yn bwysig, mae AHC yn cario risg sylweddol uwch o argyfyngau meddygol difrifol a marwolaeth sydyn, yn enwedig yn ystod penodau difrifol sy'n cynnwys anadlu neu gymhlethdodau cardiaidd. Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd enfawr o hyd ynghylch dyfodol Rupert."
Dywedodd y bydd ei fab yn gorfod derbyn archwiliadau parhaus, monitro agos, a gofal arbenigol llawn amser gydol oes.
"Rydw i wedi codi arian ar gyfer amryw o elusennau ac achosion da o'r blaen ac ni ddychmygais erioed y byddwn i'n gorfod gofyn am help. Mae codi arian yn anodd iawn, ond does gennym ni ddim dewis arall," ychwanegodd.
Llun: Dave Smith
