Ofnau am effaith dod a chynllun llyfrau am ddim i blant ifanc i ben

Plentyn / darllen

Mae rhybudd y gallai miloedd o blant bach ledled Cymru golli mynediad at lyfrau am ddim wrth i gynllun Dechrau Da ddod i ben, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ariannu’r cynllun yn uniongyrchol.

O 1 Ebrill 2026, bydd y cyllid sy’n cefnogi rhaglenni blynyddoedd cynnar dwyieithog BookTrust ar gyfer babis a phlant ifanc, gan gynnwys Dechrau Da a Pori Drwy Stori, yn cael ei symud i gynlluniau eraill.

Mae elusen BookTrust Cymru o’r farn fod rhaglenni Dechrau Da yn chwarae rhan hanfodol mewn lleihau anghydraddoldeb. 

Mae adroddiad diweddar gan yr elusen yn awgrymu fod 84% o deuluoedd incwm isel yn darllen mwy ar ôl derbyn cefnogaeth. 

I lawer o deuluoedd, mae’r rhaglen yn darparu llyfrau cyntaf eu plant meddai BookTrust Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i bartneriaid sicrhau na fydd bwlch yn y ddarpariaeth i'r dyfodol.

'Anfantais'

Dywedodd Sioned Jones, Cyfarwyddwr BookTrust Cymru: “Cymru fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig fydd ddim yn cynnig rhaglen Dechrau Da Babi i unrhyw blentyn newydd-anedig yn sgil hyn. Mae ymchwil yn dangos fod cael teuluoedd i gyd-ddarllen o’r cyfnod cynharaf posib yn dod â manteision unigryw, ar unwaith ac yn yr hirdymor, yn eu sgil.

“Mae dod â rhaglenni cyd-ddarllen gwerthfawr sy’n creu argraff, heb gynllun pontio clir a ymgynghorwyd, yn bygwth rhoi babis a phlant dan anfantais am flynyddoedd i ddod.”

Mae BookTrust Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r asesiadau hawliau plant a arweiniodd at ei benderfyniad i ddod a Dechrau Da i ben yng Nghymru, a darparu eglurder ar sut y gellir sicrhau parhad i gefnogaeth ar gyfer cyd-ddarllen yn y blynyddoedd cynnar y tu hwnt i fis Ebrill 2026. 

'Syfrdanu'

Dywedodd Nicola Davies, Laureate Plant Cymru ar gyfer 2025-2027: “Rydw i wedi fy syfrdanu i glywed fod Llywodraeth Cymru’n torri cyllid i raglen hir-sefydledig sydd wedi galluogi i’r plant tlotaf yng Nghymru ddechrau ar eu taith ddarllen ers blynyddoedd. 

"Mae BookTrust Cymru’n darparu cefnogaeth arbenigol, wedi’i dargedu, yn Gymraeg a Saesneg, er mwyn rhoi’r deunyddiau a’r sgiliau i rieni a gofalwyr er mwyn eu galluogi i ddarllen i fabis a phlant bach. Mae’r profiad cynnar hwn o lyfrau’n sail i lwyddiant addysgol yn ddiweddarach, ac mae’n gonglfaen i symudedd cymdeithasol. 

"Mae’r syniad y gellir atgynhyrchu rhaglenni profedig yr elusen, a’r ffordd y maen nhw’n cael eu darparu drwy rwydwaith aeddfed o dimau ar y rheng flaen, dros nos, yn ffôl. Peth torcalonnus yw ystyried y bydd effeithiau’r penderfyniad hwn yn cael eu teimlo waethaf gan blant mwyaf bregus Cymru.”

Dywedodd Delyth Huws, cydlynydd Dechrau Da yng Ngheredigion: “Dwi wedi gweld â’m llygaid fy hunan sut y mae’r rhaglenni’n rhoi hyder i deuluoedd ddarllen gyda’u plant, gan droi straeon yn enydau o chwilfrydedd a llawenydd yn hytrach na rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud. 

"Mae’n agor y drws i rieni a all fod yn teimlo’n ansicr am ddarllen, gan ddangos mai’r pwynt yw bod yn chwareus a chreu cysylltiadau, nid dilyn y naratif air am air. Mae’r effaith yn glir.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein corff adnoddau Adnodd sydd bellach yn gyfrifol am raglenni llythrennedd blynyddoedd cynnar.

"Rydyn ni wedi gofyn i Adnodd i sicrhau nad oes yna fwlch yn y ddarpariaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.