Cynnig gwobr o £20,000 am wybodaeth am weddillion corff gafodd ei ddarganfod mewn coedwig

Llun: Crimestoppers / Cyfoeth Naturiol Cymru
Coediwg Clocaenog

Dros ddegawd ers i weddillion corff gael eu darganfod mewn coedwig yn y gogledd, mae gwobr o £20,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth am lofruddiaeth honedig yr unigolyn dan sylw.

Cafodd y gweddillion eu darganfod yng Nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun yn 2010 gan ddau ddyn oedd yn gwersylla yno.

Cysylltodd y ddau gyda'r heddlu, ac wedi archwiliadau fforensig mae arbenigwyr yn credu bod gweddillion y corff yn rhai o ddyn gwyn a gafodd ei eni cyn 1950.

Credai ei fod rhwng taldra o 5 troedfedd 8 modfedd a 5 troedfedd a 10.5 modfedd a gyda phroblemau gyda'i gefn.

Mae archwiliadau fforensig yn awgrymu ei fod wedi marw rhwng 2004 a 2011.

Roedd ganddo sawl dant ar goll a sawl anaf i'w gorff, ac mae ditectifs yn credu y gallai'r gŵr wedi cael ei lofruddio.

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau digidol sydd yn dangos sut allai'r dyn wedi edrych yn ystod ei 50au, 60au a 70au.

Image
Dyma sut mae'r heddlu'n credu y gallai'r dyn wedi edrych. Llun: Crimestoppers
Dyma sut mae'r heddlu'n credu y gallai'r dyn wedi edrych. (Llun: Crimestoppers)

Mae Crimestoppers yn cynnig gwobr o £20,000 am wybodaeth all arwain at euogfarn y rhai sydd yn gyfrifol am y llofruddiaeth.

Dywedodd Helen Fry, Rheolwr Crimestoppers Cymru fod teulu'r dyn yn "haeddu atebion".

"Mae rhywun yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am farwolaeth y dyn hwn," meddai.

"Mae ei deulu a'i ffrindiau, y lle bynnag maen nhw, yn haeddu atebion a chyfiawnder.

“Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Crimestoppers.

"Gallwch ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wybod wrth aros yn gwbl ddienw. Dydyn ni ddim eisiau eich enw, dim ond yr hyn rydych chi'n ei wybod.

"Gallai pob darn o wybodaeth wneud gwahaniaeth.”

Mae modd cysylltu â Crimestoppers drwy ffonio 0800 555 111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.