Gwleidydd o Venezuela'n rhoi ei Medal Heddwch Nobel i Donald Trump

Medal Trump

Mae arweinydd prif wrthblaid Venezuela, Maria Corina Machado, wedi rhoi ei Medal Heddwch Nobel i'r Arlywydd Donald Trump.

Mewn cyfarfod yn y Tŷ Gwyn y Washington, dywedodd mai bwriad y rhodd oedd i ddiolch iddo am ei gefnogaeth i'w gwlad - ond nid yw Mr Trump wedi bod yn gefnogol i'w hymdrechion hyd yma i arwain ei gwlad.

Mae plaid Ms Machado wedi dadlau mai hi oedd yn fuddugol yn etholiadau dadleuol 2024, ond mae llywodraeth America wedi dewis trafod dyfodol y wlad gyda Delcy Rodríguez, cyn ddirprwy arlywydd Venezuela.

Yn dilyn derbyn y rhodd, dywedodd Donald Trump bod cyfarfod Maria Corina Machado wedi bod yn "fraint enfawr" gan ychwanegu ei bod yn "fenyw anhygoel".

Wrth siarad gyda gohebwyr yn dilyn ei chyfarfod gyda Mr Trump, dywedodd Ms Machado: "Gallwn ni ddibynnu ar yr Arlywydd Trump.

"Cyflwynais fedal Gwobr Heddwch Nobel i arlywydd yr Unol Daleithiau... yn gydnabyddiaeth am ei ymrwymiad unigryw i'n rhyddid".

Mae Mr Trump wedi awgrymu ers tro ei fod yn awyddus i dderbyn Medal Heddwch Nobel.

Cyfnewid teitl

Yn dilyn y rhodd o'r fedal iddo, cyhoeddodd Canolfan Medal Heddwch Nobel neges ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud nad oedd modd i deitl enillydd y fedal anrhydeddus gael ei gyfnewid rhwng unigolion, hyd yn oed os yw'r fedal ei hun yn cael ei rhoi yn rhodd.

Ers i gyrch milwrol dramatig lluoedd America gipio'r cyn-arlwywydd Nicolás Maduro a'i wraig o brifddinas Venezuela ar ddechrau'r mis, Delcy Rodriguez yw arweinydd dros dro'r wlad.

Cafodd Mr Maduro a'i wraig Cilia Flores eu trosglwyddo mewn gefynnau i lys barn yn Efrog Newydd ar ôl cael eu cipio o Caracas. 

Mae'r cyn-arlywydd wedi ei gyhuddo yn yr UDA o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac arfau.

Mynnodd yn y gwrandawiad llys ei fod yn dal yn arlywydd ar Venezuela, a phlediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn. 

Mae ei wraig, Cilia Flores hefyd wedi pledio'n ddieuog i'r un cyhuddiadau.  

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.