Dedfrydu dyn o Gwmbrân oedd am fomio cyngerdd Oasis yng Nghaerdydd

McKenzie Morgan

Mae dyn 18 oed o Gwmbrân wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod o 14 mis yn y ddalfa ar ôl cyfaddef iddo fod â dogfen oedd ar gyfer terfysgaeth yn ei feddiant.

Roedd McKenzie Morgan wedi siarad gyda'i ffrindiau am ei gynlluniau i dargedu cyngerdd Oasis yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf y llynedd, ac roedd ganddo nodyn yn disgrifio ei fwriad i dargedu ysgol ddawns ger ei gartref.

Roedd wedi ei ysbrydoli gan ymosodiad angheuol yn Southport pan fu farw tair merch ifanc mewn dosbarth dawns.

Cafodd Axel Rudakubana, 18 oed, ei garcharu am o leiaf 52 mlynedd fis Ionawr diwethaf am lofruddio tair merch mewn dosbarth dawns oedd ar thema Taylor Swift yn Southport ym mis Gorffennaf 2024, pan oedd yn 17 oed.

Roedd Morgan, a oedd hefyd yn 17 oed ar adeg y troseddau, wedi pledio'n euog i feddu ar ddogfen oedd ar gyfer terfysgaeth mewn gwrandawiad blaenorol.

Fe ymddangosodd yn llys yr Old Bailey yn Llundain i gael ei ddedfrydu gan y Barnwr Sarah Whitehouse KC ddydd Gwener.

Negeseuon Snapchat

Wrth drafod ffeithiau'r achos, dywedodd Corinne Bramwell ar ran yr erlyniad bod Morgan wedi canmol yr ymosodwr yn ymosodiad Southport mewn negeseuon Snapchat rhwng 7 Ebrill a 2 Mehefin.

Rhannodd luniau o Rudakubana, gan ddweud ei fod eisiau cymryd rhan mewn ymosodiad terfysgol tebyg, a'i fod yn ceisio cynhyrchu'r gwenwyn marwol ricin.

Cysylltodd un o'r bobl ar y sgwrs Snapchat gyda'r heddlu ac fe gafodd Morgan hefyd ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant oherwydd pryderon gan ei fam.

Aeth ymlaen i ddweud wrth nyrs seiciatrig ar 2 Mehefin ei fod eisiau brifo eraill a'i fod yn bwriadu cyflawni ymosodiad terfysgol tebyg i un Rudakubana, meddai Ms Bramwell wrth y llys.

Bomiau

Dywedodd Morgan ei fod wedi bod yn ymchwilio i fomiau a gwenwyn a sut i drywanu a lladd pobl, ar ôl mwynhau gwylio ymosodiadau terfysgol.

Fe wnaeth y nyrs ddatgelu manylion ei sgwrs i'r heddlu, ac fe argymhellodd asesiad awtistiaeth.

Yn ddiweddarach yr un diwrnod, cafodd Morgan ei arestio yn ei gartref yng Nghwmbrân.

Cafodd ei ddyfeisiau electronig a'i ffonau symudol eu cadw gan yr heddlu, ac fe ddaeth swyddogion o hyd i lawlyfr terfysgol arnynt.

Datgelodd archwiliad pellach fod Morgan wedi anfon neges fis Ebrill diwethaf yn gofyn "sut i losgi wynebau pobl".

Dywedodd: "Yn fy mhen mae gen i'r cymhelliant nawr i fwrw ymlaen â rhyw fath o ymosodiad."

Anfonodd lun hefyd o gyllell gegin 15cm oedd ar wefan Amazon at ddefnyddiwr Snapchat arall gyda'r cwestiwn: "A fyddai hyn yn gweithio?"

Dywedodd Ms Bramwell fod cofnodion yn dangos ei fod wedi mynd yn ei flaen i geisio prynu'r gyllell.

Dywedodd Michael Stradling ar ran yr amddiffyniad nad oes gan Morgan hanes o drais a dywedodd mai'r risg fwyaf oedd hunan-niweidio neu i'r diffynnydd ddioddef niwed gan eraill.

Dywedodd y bargyfreithiwr: “Gofynnais iddo beth mae am ei ddweud a'r hyn y byddwn yn ei ddisgrifio fel modd gwirioneddol o waelod ei galon, dywedodd ei fod eisiau i chi wybod bod yn ddrwg iawn ganddo.”

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.