Newyddion S4C

SheUltra: Trefnu ras redeg wedi 'rhoi pwrpas' i ddyn o Bwllheli sydd â chanser terfynol

Huw Williams

Mae rhedwr sy’n byw â chanser terfynol wedi dweud bod trefnu digwyddiad ultra-marathon i fenywod ym Mhen Llŷn wedi “rhoi pwrpas ychwanegol i mi mewn bywyd.” 

Fe gafodd Huw Willliams, 53 oed, o Bwllheli ddiagnosis o ganser niwroendocrin cam 4 nad oes modd ei wella yn 2019. 

Roedd yn rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei galon wedi ei ddiagnosis gan olygu ei fod yn treulio wythnosau yn gwella yn yr ysbyty, ac fe wnaeth hynny roi amser iddo feddwl, meddai. 

Yn ystod y cyfnod hwn, fe gafodd Huw'r syniad o drefnu'r ultra-marathon mwyaf y byd i ferched yn unig. 

Ar ôl lansiad llwyddiannus gyda 500 yn cymryd rhan y llynedd, bydd ras SheUltra eleni yn cael ei chynnal ar 12 Ebrill – ac mae eisoes wedi denu 1,800 o gystadleuwyr o bob cwr o'r byd.

O fewn pum mlynedd o’i lansio, mae Huw yn gobeithio y bydd y ras yn codi £1 miliwn ar gyfer nifer o elusennau canser menywod.

Mae’n dweud bod trefnu digwyddiad o’r fath ar ôl cael diagnosis o ganser wedi rhoi pwrpas gwahanol iddo.

“Mae canser yn eich newid. Rydych chi'n wahanol. Mae popeth yn newid, felly mae'n dda gwneud rhywbeth mor werth chweil. 

“Fy nod yw creu gwaddol o obaith,” meddai. 

Image
Huw Williams

'Gwerthfawr'

Mae Huw yn rhedwr profiadol, ag yntau wedi cymryd rhan ym Marathon De Sables, sy’n cael ei hystyried yn ras droed anoddaf y byd, yn 2017. Mewn chwe diwrnod yn unig, fe lwyddodd Huw i redeg 156 milltir ar draws Anialwch y Sahara. 

Mae bellach yn awyddus i sicrhau bod menywod yn cael cyfleoedd tebyg i herio eu hunain.

Dywedodd Huw: "Y prif beth am y SheUltra, yn ogystal â chodi arian ar gyfer elusennau canser merched, ydi bod pob un sy'n cymryd rhan yn teimlo yr un mor werthfawr â'r ferch gyntaf dros y llinell ac yn cael ei gwerthfawrogi gymaint â’r un olaf dros y llinell. 

"Y digwyddiad cyntaf oedd yr un mwyaf yn y byd y llynedd a hwn fydd yr un mwyaf yn y byd eto eleni. 

"Beth sy’n ein gwneud yn unigryw ydi ein bod ni'n ddigwyddiad, nid ras, does dim terfyn amser cwblhau’r cwrs.” 

Y llynedd fe godwyd £30,000 gan fenywod a lwyddodd i redeg, heicio neu gerdded y cwrs 31 milltir (50km) o hyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.