Newyddion S4C

Ail AS Llafur yn colli'r chwip am ei sylwadau ar grŵp WhatsApp

Oliver Ryan

Mae ail aelod seneddol Llafur wedi ei wahardd ar ôl iddo fod yn rhan o grŵp WhatsApp oedd yn cynnwys sylwadau sarhaus, wedi i weinidog golli'r chwip yn dilyn negeseuon anfonodd i’r grŵp.

Roedd Oliver Ryan, gafodd ei ethol i gynrychioli etholaeth Burnley yr haf diwethaf, wedi bod yn destun ymchwiliad i’w ran yn y sgwrs ac roedd i fod i gwrdd â’r prif chwip ddydd Llun.

Daw hyn ar ôl i’r cyn-weinidog iechyd Andrew Gwynne ymddiheuro am sylwadau a wnaeth i'r grŵp WhatsApp, wedi iddo adael y Llywodraeth a chael ei wahardd o’r blaid dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Manceinion fod “digwyddiad casineb nad yw’n drosedd” wedi’i gofnodi ar ôl i’r sylwadau ddod i’r amlwg.

Dywedodd Mr Gwynne ei fod yn gobeithio y byddai dynes 72 oed yn marw’n fuan ar ôl iddi holi cynghorydd am gasgliadau biniau, a chellwair am etholwr yn cael ei tharo gan lori. 

Y gred yw bod y Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi diswyddo Mr Gwynne fel gweinidog cyn gynted ag y daeth yn ymwybodol o'r sylwadau yr oedd wedi eu hanfon.

Adroddodd The Daily Mail ei bod yn ymddangos bod Mr Ryan yn gwawdio cyd-Aelod Seneddol Llafur dros ei rywioldeb mewn sgyrsiau yn y grŵp o'r enw Trigger Me Timbers.

Nid yw'r papur newydd wedi cyhoeddi enw'r AS sy'n cael ei watwar yn y grŵp ac mae'n nodi nad yw erioed wedi trafod ei rywioldeb yn gyhoeddus ac nad yw'n hysbys ei fod yn hoyw.

Y gred yw bod fod Mr Ryan hefyd wedi defnyddio llysenw sarhaus i gyfeirio at yr arweinydd Llafur lleol, Colin Bailey.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.