Treth etifeddu: Tua mil o ffermwyr yn protestio yn Llundain
Teithiodd rhyw fil o ffermwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i ganol Llundain ddydd Llun, i brotestio yn erbyn newidiadau Llywodraeth San Steffan i'r dreth wrth etifeddu fferm.
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r newidiadau yn 'bersonol' ac mi fyddan nhw'n cael effaith ar fywydau miloedd o deuluoedd.
Gyda nifer yn eu tractorau, fe heidiodd y ffermwyr i San Steffan i godi llais yn erbyn y cynlluniau, wrth i un o bwyllgorau'r senedd drafod y newidiadau.
Mae deiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau bellach wedi casglu dros 150,000 o enwau.
Mae'r Llywodraeth Lafur yn mynnu na fydd yn ail ystyried, ac y byddan nhw'n parhau â'u cynlluniau i gyflwyno treth o 20% ar ffermydd sy'n werth na £1 miliwn wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.
Yn y brotest yn Llundain, dywedodd Llywydd Undeb yr NFU yn y DU, Tom Bradshaw: “Mae cryfder y teimladau yn erbyn y dreth hon ar ffermydd yn dal i fod yn eithriadol o uchel."
Mae disgwyl i'r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb, ddod i rym fis Ebrill.