Newyddion S4C

Galw ar ddefnyddio addoldai gwag fel tai fforddiadwy

Sefydliad Bevan a Housing Justice Cymru

Mae ymchwil gan ddau sefydliad tai yn edrych ar y potensial o ddefnyddio cyn-addoldai fel llety i bobl.

 Yn ôl Sefydliad Bevan a Housing Justice Cymru mae un o bob 25 o aelwydydd yn byw mewn tai dros dro. Mae'r angen am gartrefi fforddiadwy yn fater brys meddan nhw.

Y broblem fwyaf o adeiladu cartrefi newydd a fforddiadwy ydi dod o hyd i dir addas yn y llefydd cywir meddai'r sefydliadau. 

Mae llawer o safleoedd lle mae bwriad eu datblygu naill ai'n anaddas neu ddim mewn ardaloedd lle mae galw mawr. Weithiau dyw'r perchnogion ddim yn fodlon rhoi caniatâd i ddefnyddio'r tir. 

Mae prisiau tir uchel hefyd yn golygu nad oes modd adeiladu tai fforddiadwy yno.

Mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif y gallai hyd at 7000 o gartrefi gael eu creu drwy ailddatblygu mannau addoli segur ac adeiladau cysylltiedig, a drwy ryddhau daliadau tir sy’n berchen i sefydliadau crefyddol.

Maent yn dweud hefyd y byddai yn golygu na fyddai adeiladau yn mynd yn adfail. 

Dywedodd Cyn Archesgob Cymru a Chadeirydd Housing Justice Cymru, John Davies: “Gall amser trist iawn ddod pan ddaw addoldy sydd wedi ei garu’n fawr dros y blynyddoedd, i ddiwedd ei oes hyfyw.”

'Rhaid edrych ar bob cyfle'

“Yr opsiwn lleiaf deniadol ar gyfer yr adeilad hwnnw yw ei fod yn cau ac yn troi'n adfail,” meddai.

“Mae yna adegau pan fydd clirio’r safle ac adeiladu cyfleusterau newydd yn opsiwn posib.”

Mae Sefydliad Bevan a Housing Justice Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau ffydd i gydnabod y cyfle hwn ac i ymrwymo iddo.

Dywedodd Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil yn Sefydliad Bevan: “Yn llawer rhy aml mae’r cyfleoedd hyn i ailddatblygu adeiladau cymunedol pwysig yn cael eu rhoi yn y blwch ‘rhy anodd ei wneud’ ”.

Wrth bwysleisio bod prinder cartrefi cymdeithasol, a diffyg safleoedd i’w datblygu dywedodd bod “rhaid inni edrych ar bob cyfle”.

“Nod ein hargymhellion yw dod o hyd i ffordd drwy’r rhwystrau i harneisio eu potensial” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.