Dynes o Wynedd yn disgrifio dronau o Iran yn disgyn ger ei chartref yn Dubai

Dynes o Wynedd yn disgrifio dronau o Iran yn disgyn ger ei chartref yn Dubai

Mae Cymraes sydd yn wreiddiol o Benygroes yng Ngwynedd wedi disgrifio'r profiad o weld ymosodiad gan ddronau a thaflegrau o Iran ger ei chartref yn Dubai.

Dywedodd Rhiana Mair wrth Newyddion S4C nos Sul bod y diwrnod diwethaf wedi bod yn un dychrynllyd iddi hi a'i theulu.

Fe wnaeth camera cloch drws y teulu ddal y foment pan y gwnaeth drôn Iranaidd hedfan dros eu cartref nos Sadwrn.

"Oedd na dwrw mwyaf ofnadwy yn y tŷ - oedd bob dim yn crynu a natho ni ruthro yn ôl i'r tŷ," meddai.

"Ar ôl hynny nath o jyst ddim stopio. Drwy'r nos. Ar ôl hanner nos gafon ni negas yn deud 'arhoswch yn tŷ, cerwch yn isel, peidiwch a bod wrth ymyl ffenestri' - ag y munud gafon ni y neges yna, oedd na dwrw mwyaf ofnadwy - dwi ddim yn siwr sut wnaeth y drysau a'r ffenestri ddal."

Mae lluoedd Iran wedi anfon taflegrau at nifer o wledydd yn y rhanbarth sydd yn cynnwys canolfannau milwrol Americanaidd mewn ymgais i ddial ar ymosodiad yr UDA ag Israel ar eu gwlad fore dydd Sadwrn.

Marwolaethau

Cafodd arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei, ei ladd yn dilyn ymosodiad milwrol yr UDA ag Israel - ac mae nifer yn Israel a thri milwr yr UDA wedi marw wedi i Iran ymosod gan geisio talu'r pwyth yn ôl.

Ychwanegodd Rhiana Mair bod y sefyllfa yn anodd i bawb ar hyn o bryd.

"Dan ni'n gobeithio a gweddio y bydd bob dim yn iawn dros nos.

"Dan ni gyd yn cysgu yn yr un ystafell i lawr y grisiau sydd ddim hefo gymaint o ffenestri, mae'n amser ofnus, mae'n amser poenus, mae na Air Tags ar ddau o'r plant rhag ofn - dwi wedi gwneud bagiau yn barod hefo dillad dros nos, chydig bach o fwyd, dŵr, a pasborts ag arian wrth gwrs.

"Da ni ddim yn siwr beth sy'n mynd i ddigwydd dros nos."

Mae nifer o gwmnïau hedfan wedi canslo hediadau i'r Dwyrain Canol yn dilyn y gwrthdaro yn Iran a gwledydd cyfagos dros y penwythnos.


 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.