Caerdydd: Arestio dyn wedi ymgais i gipio menyw 18 oed

PontPrennau

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn ymgais i gipio menyw 18 oed yn ardal Pontprennau o Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd dyn lleol 33 oed ei arestio o fewn ychydig oriau i'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Digwyddodd y digwyddiad am tua 18.30 ar gyffordd Clos Nant Mwlan a Heol Pontprennau, ar ôl i'r dioddefwr 18 oed ddod oddi ar fws.

Y gred yw bod rhywun wedi ei dilyn.

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn ceisio dod o hyd i fenyw oedd yn gyrru car du a welodd y digwyddiad ac a stopiodd ei char i ymyrryd.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Laura Parsons o Heddlu'r De: “Mae digwyddiadau fel hwn yn hynod brin a hoffwn sicrhau pobl ein bod wedi arestio rhywun dan amheuaeth sydd yn y ddalfa gan yr heddlu.

"Hoffwn ganmol y fenyw a stopiodd ei char i ymyrryd. 

"Mae’n bwysig iawn ein bod yn nodi pwy yw hi felly mae’n cael ei hannog i gysylltu".

Gall unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu gan ddefnyddio cyfeirnod 2600064068.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.