Cwmnïau hedfan yn canslo teithiau i'r Dwyrain Canol
Mae nifer o gwmnïau hedfan wedi canslo hediadau i'r Dwyrain Canol yn dilyn y gwrthdaro yn Iran a gwledydd cyfagos dros y penwythnos.
Mae lluoedd Iran wedi ymosod gyda thaflegrau ar nifer o wledydd yn y rhanbarth, yn dilyn ymosodiad Israel ag America ar Iran.
Cafodd arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei, ei ladd yn yr ymosodiad ddydd Sadwrn.
Mae un person wedi ei ladd a nifer wedi eu hanafu ar ôl i daflegrau Iran daro meysydd awyr yn Dubai ag Abu Dhabi.
Gan fod Dubai yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a hefyd yn fan glanio i lawer o awyrennau ar eu ffordd o Ewrop i'r Dwyrain Pell, gallai'r newyddion effeithio ar nifer sylweddol o deithwyr.
Mewn datganiad fore dydd Sul, dywedodd British Airways eu bod yn "monitro'r sefyllfa'n agos ac wedi canslo nifer o'n hediadau i'r Dwyrain Canol.
"Diogelwch yw ein blaenoriaeth bob amser ac ni fyddem byth yn gweithredu hediad oni bai ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
"Os ydych chi i fod i hedfan rhwng Heathrow Llundain ac Abu Dhabi, Amman, Bahrain, Doha, Dubai neu Tel Aviv gallwch newid eich hediad yn rhad ac am ddim hyd at a chan gynnwys 29 Mawrth."
Dywedodd cwmni Virgin hefyd eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa.
"Diogelwch ein cwsmeriaid a'n criw yw ein blaenoriaeth gyntaf bob amser. Fel mesur rhagofalus, rydym yn osgoi gofod awyr Irac dros dro ac yn parhau i adolygu ein llwybrau hedfan yn unol â'r wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf gan awdurdodau hedfan rhyngwladol a'n safonau diogelwch llym ein hunain.
"O ganlyniad, mae rhai o'n gwasanaethau'n gweithredu ar lwybrau wedi'u haddasu ac efallai y byddant yn profi amseroedd hedfan ychydig yn hirach."
Mae cwmni hedfan Emirates wedi dweud hefyd eu bod yn canslo hediadau i ac o Dubai dros dro, hyd at 15:00 (amser lleol) ddydd Llun.