Y Dywysoges Catherine yn rhannu neges yn y Gymraeg am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi
Y Dywysoges Catherine yn rhannu neges yn y Gymraeg am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi
Mae'r Dywysoges Catherine wedi rhannu neges yn y Gymraeg am y tro cyntaf wrth iddi hi a'r Tywysog William gyhoeddi neges Dydd Gŵyl Dewi.
Mewn fideo a gafodd ei chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul mae Tywysog a Thywysoges Cymru yn dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bobl Cymru.
Cafodd y fideo ei recordio yn gynharach yr wythnos hon ar ystâd Windsor.
Mae'r fideo yn dechrau gyda William yn dweud: “I bawb yng Nghymru, Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn."
Ychwanega Kate: “Mae Cymru yn agos iawn at ein calonnau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at bob ymweliad.
“Mae’n wlad hyfryd gyda hanes cyfoethog a phobl wych," meddai William.
Yna mae Kate yn gorffen y neges trwy ddweud: “Dymunwn ddiwrnod llawn o ddathlu gyda theulu a ffrindiau.”
Yn gynharach yr wythnos hon roedd y ddau wedi ymweld â Llanidloes.
Yn ystod yr ymweliad fe wnaeth y ddau siarad gyda phlant oedd wedi creu addurniadau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.