Gŵr a gwraig o Aberystwyth yn dechrau cyfri TikTok i ddysgu ieithoedd ei gilydd
Mae gŵr a gwraig o Aberystwyth wedi dechrau cyfri TikTok i rannu'r daith o ddysgu ieithoedd ei gilydd.
Fe wnaeth Colin Noseworthy gyfarfod ei wraig, Mercy - sy'n dod o Genia - ddwy flynedd yn ôl, gan ei phriodi ym mis Hydref y llynedd.
Mae'r ddau bellach yn ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg a Kiswahili, sef un o ieithoedd swyddogol Cenia, ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae ieithoedd wedi bod yn ran bwysig o’n perthynas ni, dysgu ieithoedd ein gilydd," meddai Mr Noseworthy wrth Newyddion S4C.
"Mae Mercy yn siarad sawl iaith, mae hi’n siarad iaith y llwyth, sef Kalenjin, yn ogystal â Kiswahili, sy’n iaith swyddogol yn Cenia, ond mae’n cael ei siarad mewn nifer o leoedd yn nwyrain Affrica megis Congo, Rwanda, Tanzania ac Uganda.
"Ni jyst eisiau ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg ac ieithoedd Affrica yn rhannol, ac mae’n ffordd o gael hwyl gydag ieithoedd a rhoi bach o newyddion positif i bobl mewn amser sydd yn ddigon tywyll - mae’n ffordd o ddangos bod diwylliant yn gallu cyd fyw, a chael eu dathlu."
Yn ôl amcangyfrifon, mae rhwng 100 a 200 miliwn o bobl yn siarad Kiswahili ar draws y byd.
'Cyfoethogi bywyd'
Yn aml yn ffilmio eu fideos yn Aberystwyth, mae’r pâr yn cyflwyno geiriau syml i’w gwylwyr yn y Gymraeg a Kiswahili.
"'Da ni wedi neud geiriau fel mto, sef afon, a nyasi, sef gwair - jyst geiriau syml iawn i neud pobl yn chwilfrydig," meddai.
"Mae’n ffordd i ennyn diddordeb pobl mewn ieithoedd ei gilydd ac yn ffordd da iawn i ni ddysgu ‘chydig o eiriau ein hunain wrth trio dysgu ieithoedd ein gilydd."
Er bod Cymraeg a Kiswahili yn wahanol iawn, mae'r ddwy iaith yn ieithoedd ffonetig - sy'n eu gwneud yn haws i'w dysgu, yn ôl Mr Noseworthy.
"Mae’n weddol rwydd i Mercy ynganu pethau yn y Gymraeg, ac i finne ddweud pethau mewn Kiswahili," meddai.
"Dyw e ddim yn gymhleth fel y Saesneg; does dim treigladau yn Kiswahili, sy’n neud e bach rhwyddach."
Ond gyda Chymru a Cenia dros 4,000 o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, prin yw'r ymgysylltu rhyngddynt fel arfer.
"Mae 'na lot o debygrwydd rhwng Cymru a Cenia, maen nhw'n hoffi rygbi, mae 'na hanes ni’n rhannu i raddau," meddai.
"Dydyn nhw ddim yn wledydd sy'n cyd drafod lot yn gyffredinol, felly mae'n braf iawn gweld y ddwy genedl yn trafod."
Er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae Mr Noseworthy yn dweud eu bod wedi cael "ymateb positif" i'r cynnwys hyd yma.
"Mae’n dangos i bobl bod mudwyr yn gallu cyfoethogi diwylliannau gwledydd mewn disgwrs lle mae lot o negyddiaeth am effaith diwylliannol mudo," meddai.
"Mae’n cyfoethogi bywyd i cael ieithoedd yn cael eu cyd trafod a'u cyd cyfleu."