Angen i Gymru 'floeddio'n uwch' medd arweinydd Plaid Cymru
Mae angen i Gymru "floeddio'n uwch" fel cenedl meddai Rhun ap Iorwerth wrth gynhadledd Plaid Cymru yng Nghasnewydd.
Fore Sadwrn fe wnaeth arweinydd y blaid amlinellu ei gynlluniau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf Plaid Cymru mewn grym, pe bai nhw'n ennill etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Dywedodd Mr ap Iorwerth bod cyhoeddi'r cynlluniau yn dangos "difrifoldeb" y blaid wrth agosáu at etholiad y Senedd.
Yn rhan o'r cynlluniau mae targedau i wella gofal iechyd ac "ailosod" y berthynas gyda Llywodraeth San Steffan.
"Dwi eisiau perthynas bositif gyda Phrif Weinidog y DU, pwy bynnag fydd hynny, pe bai'n Keir Starmer neu ei olynydd, ond fe fydd y berthynas wedi'i selio ar eglurder a gonestrwydd.
"Weithiau dwi'n cael fy nghyhuddo gan Eluned Morgan [Prif Weinidog Cymru] o ddweud, yr unig beth dwi eisiau ei wneud yw bloeddio'n uwch.
"Dyw hyn ddim am floeddio'n uwch yn unig, ond mae angen i ni floeddio'n uwch fel cenedl achos mae tawelwch Llafur Cymru pan mae'n dod i feirniadu eu cydweithwyr yn San Steffan yn fyddarol."
'Ymddiried'
Y Blaid Lafur sydd wedi llywodraethu yng Nghymru ers i'r Senedd gael ei sefydlu yn 1999.
Ond mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y gallai'r blaid colli grym ym mis Mai.
Mae Plaid Cymru a Reform UK yn gobeithio ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth bryd hynny.
"Os ydym ni'n gofyn i bobl ymddiried ym Mhlaid Cymru, y lleiaf gallwn ei wneud yw addo ein bod ni'n barod i ad-dalu'r ffydd yn syth.
"A dwi'n credu bod unrhyw blaid sydd yn arwain yn y polau piniwn, sydd yn edrych fel eu bod nhw'n gallu arwain llywodraeth, bod ganddyn nhw ddyletswydd i ddweud 'os ydych chi'n pleidleisio drosom ni, rydym yn barod i lywodraethu'n syth."
Ychwanegodd Mr ap Iorwerth y byddai "gwahaniaeth amlwg" yn ei berthynas gyda Syr Keir Starmer, sydd wedi pwysleisio'n ddiweddar pwysigrwydd llywodraethau Llafur yng Nghymru a San Steffan yn gweithio "ochr yn ochr."
"Dyw e ddim yn fater o ddweud 'allai plîs gael hwn' - a dwi'n ei gael o. Dwi'n gwybod mai nid dyna sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio.
"Bydd angen i Lafur ddewis gosod Cymru i un ochr neu ddangos eu bod yn poeni am y wlad, ac fe fyddai'n eu hannog i wneud y peth iawn a dangos eu bod yn poeni am Gymru."